Pryder am swyddi ym Melin Bapur Shotton

UPM Shotton Image copyright Google
Image caption Mae gan safle Shotton y gallu i gynhyrchu 490,000 tunnell y flwyddyn

Mae cwmni UPM, sy'n cyflogi 370 mewn melin bapur ar Lannau Dyfrdwy, wedi cyhoeddi eu bwriad i gael gwared ar hyd at 130 o swyddi.

Dywedodd y cwmni nad oedd modd cadarnhau'r cyfanswm terfynol tan eu bod wedi ymgynghori yn ffurfiol gyda'r gweithwyr a'r undebau.

Dydd Mawrth cyhoeddodd gynlluniau i leihau eu gweithgareddau yn Ewrop, gan ddiswyddo 550 o'u gweithlu.

Mae gan UPM ffatrïoedd eraill yn Ffrainc, Y Ffindir a'r Almaen ond y nod yw lleihau eu gallu cynhyrchu o 800,000 tunnell yn Ewrop.

Bwriad y cwmni yw cau un o'r peiriannau cynhyrchu ar eu safle yn Shotton lle mae modd cynhyrchu 490,000 tunnell y flwyddyn.

'Lleihau'n aruthrol'

"Mae'r galw am bapur wedi lleihau'n aruthrol ledled Ewrop wrth i gwsmeriaid droi at y we a dyfeisiadau digidol," meddai llefarydd.

Ychwanegodd fod cyflwr bregus economi gwledydd Ewrop wedi dylanwadu ar eu penderfyniad.

Mae Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, wedi dweud: "Rydan ni'n siomedig iawn ac yn poeni am yr effaith ar bobl leol.

"Mi fyddwn ni'n cydweithio gyda'r cwmni er mwyn lleihau'r effeithiau ac er mwyn helpu pobl leol.

"Mae hwn yn gyglogwr mawr yn y sir a dwi'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru helpu am fod y sefyllfa'n anodd."

Dywedodd llefarydd ar ran undeb Unite nad oedden nhw wedi clywed unrhyw beth yn swyddogol gan y cwmni.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.