Nigel Owens: Ymchwiliad i weiddi homoffobig

Nigel Owens Image copyright Rex Features

Wedi honiadau fod rhai yn y dorf wedi gweiddi sylwadau homoffobig ar y dyfarnwr Nigel Owens yn Twickenham ddydd Sadwrn, mae Undeb Rygbi Lloegr (RFU) yn ymchwilio.

Mae honiadau fod cefnogwyr wedi sarhau'r dyfarnwr - sy'n hoyw - pan oedd yn dyfarnu gêm rhwng Lloegr a Seland Newydd ar benwythnos cynta' Cyfres yr Hydref.

Yn ôl llefarydd ar ran yr RFU:

"'Dy ni'n cymryd unrhyw honiad o sarhad o ddifri', ac yn ymchwilio i'r mater".

Ar raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Mercher, fe ddywedodd Nigel ei fod o wedi ei siomi gan y digwyddiad.

Meddai, "Mae cymdeithas wedi newid - mae 'na ddiffyg parch. Dyw pobl heddi' ddim yn cael eu dysgu'r pethe pwysig am fod yn rhan o gymdeithas... ac mae hynny wedi dod draw i'r meysydd chwarae hefyd."

Ychwanegodd fod clywed honiadau am sylwadau hiliol a homoffobig yn y gêm yn achosi loes a siom iddo.