Carwyn Jones: Dim lle i Evans ddychwelyd

Carwyn Jones
Image caption Dywed Carwyn Jones nad yw Ched Evans wedi ymddiheuro i'r dioddefwr

Ni all Ched Evans ddychwelyd i chwarae pêl-droed yn broffesiynol yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, oherwydd ei fod wedi ei gael yn euog o dreisio.

Gwnaeth Mr Jones i sylwadau ar raglen Question Time nos Iau, gan ddweud fod y peldroediwr wedi ei gael yn euog o drosedd ddifrifol ac nad ydi o wedi ymddiheuro am dreisio dynes mewn gwesty yn Rhuddlan.

Mae penderfyniad Sheffield United i ganiatáu Evans, 25 oed, i ddechrau hyfforddi gyda'r tîm wedi ei feirniadu gan nifer.

Cafodd Evans, sydd hefyd wedi chwarae i Gymru, ei ryddhau o'r carchar fis diwethaf, ac maen o'n parhau i fynnu ei fod o'n ddieuog o'r cyhuddiad.

Dydd Iau fe gyhoeddodd yr athletwr Jessica Ennis-Hill y bydd hi eisiau i'w henw gael ei dynnu oddi ar eisteddle yn Bramall Lane pe bai'r clwb yn cynnig cytundeb i'r pêl-droediwr.

Ymddiheuro

Mae tri o noddwyr Sheffield hefyd wedi torri cysylltiad gyda'r clwb.

Ar raglen Question Time y BBC dywedodd Mr Jones nad oedd Evans wedi ymddiheuro i'r dioddefwr.

"Beth mae'n golygu iddi hi i'w weld o nol mewn sydd lle bydd yn ennill llawr o arian, a hynny ar ôl cael ei ddyfarnu'n eog o dreiso?" gofynnodd.

Image copyright PA
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu yn 2012

"Os ydych yn 'role model' ac eich bod wedi eich dyfarnu yn euog o drosedd difrifol, fel treisio, ac nad ydych yn ymddiheuro, ac nad ydych yn dweud eich bod wedi cyflawni trosedd difrifol, yna ni allwch fynd yn ôl i joban fel pêl-droed."

Dywedodd Leanne Wood,arweinydd Plaid Cymru: "Rwy'n meddwl bod yna berygl fan hyn o anfon neges anghywir i bobl ifanc sy'n gweld chwaraewyr pêl-droed fel role model, mae yna beryg ein bod yn anfon neges nad yw treisio yn drosedd difrifol."

Hefyd ar y rhaglen dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, y byddai hi'n teimlo yn hynod anghyfforddus pe bai Evans yn chwarae i Gymru unwaith eto.

Straeon perthnasol