Plant mewn angen yn casglu dros £1.3 miliwn!

Image caption Roedd y bythol-wyrdd Syr Terry Wogan yn ymuno â Tess Daily i gyflwyno'r galla flynyddol ar 'BBC One'

Wedi diwrnod o weithgareddau i godi arian tuag at Apêl Plant Mewn Angen 2014 fe gyhoeddwyd bod £1,320,050 wedi ei godi yng Nghymru.

Ym Mhrydain y cyfanswm oedd £32,620,46, y swm uchaf erioed i'w godi ar y noson.

Llynedd, casglwyd £31.1m.

Mae trefnwyr yr apêl yn dweud bod hwn yn ganlyniad aruthrol ac yn dystiolaeth o haelioni rhyfeddol pobl Cymru.

Mae disgwyl i'r ffigwr gynyddu eto dros y dyddiau nesaf.

Er mwyn cyfrannu gallwch ffonio 0345 7 33 22 33 neu ewch i'r wefan bbc.co.uk/cymru/pudsey.