Braintree 1 - 0 Wrecsam

braintree Image copyright Getty Images
Image caption braintree

Braintree yn curo Wrecsam yn eu buddugoliaeth gyntaf mewn 11 gêm.

Unig gôl y gêm oedd gôl gyntaf Charlie Strutton y tymor hwn, ac yn wir, gôl gyntaf Braintree mewn naw awr a mwy o chwarae.

Roedd Wrecsam wedi colli un chwaraewr ar y cae gyda saith munud ar ôl o'r gêm.

Fe gafodd Blaine Hudson ei anfon o'r cae gydag ail gerdyn felen.

Mae tîm Kevin Wilkin wedi chwarae saith gêm erbyn hyn heb yr un fuddugoliaeth.