Ail-adeiladu canolfan arddio Llaneirwg

canolfan arddio
Image caption Bu diffoddwyr yn ymladd y tân am 5 awr ar Dachwedd yr 20fed, 2013.

Mae'r cynlluniau i ailadeiladu canolfan arddio ger Caerdydd wedi cael eu harddangos, blwyddyn wedi i'r lle gael ei ddinistrio bron yn llwyr gan dân.

Mae Blooms yn Llaneirwg wedi bod ar gau ers y tân ar Dachwedd yr 20fed, 2013.

Roedd pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi gerllaw wrth i 45 o ddiffoddwyr weithio am bump awr i reoli'r tân,

Roedd un o brif adeiladau'r ganolfan wedi gorfod cael ei ddymchwel wedi'r tân ac fe fydd yr adeiladau newydd yn debyg i'r hen rai.

Dywedodd llefarydd ar ran grwp canolfannau garddio Wyevale eu bod wedi bod yn edrych mlaen at "benderfyniad positif".

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n perchennog wrth ddatblygu gydag ailadeiladu Cardiff Blooms yn dilyn y tân dinistriol ym mis Tachwedd 2013".

Fe gefnogwyd y cais cynllunio gan Gyngor Caerdydd yn gynharach yn yr wythnos.