Bwthyn Mark Bridger wedi ei ddymchwel

Dymchwel ty mark Bridger
Image caption Roedd to'r adeilad eisoes wedi'i godi.

Mae bwthyn y llofrudd Mark Bridger yn Ngheinws ger Machynlleth wedi cael ei ddymchwel heddiw.

Fe ddechreuodd y gwaith toc cyn 11 fore Llun, ac mae rhieni a theulu April yno'n gwylio'r gwaith.

Wrth wylio'r bwthyn yn cael ei ddymchwel, mae mam April, Coral, wedi dweud: "Digwyddodd rhywbeth erchyll yma... Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy o anodd.

"Rydym ni wedi bod i'r safle o'r blaen, ond mae dychwelyd yma heddiw wedi ailagor y graith."

Ychwanegodd Paul, ei thad: "Rydym ni'n glynnu'n dynn gyda'n gilydd a dyna ein cryfder."

Cafodd y bwthyn ei brynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ei ddymchwel.

Mae disgwyl i'r gwaith clirio gymryd dau i dri diwrnod i gyd ac fe fydd y rwbel yn cael ei symud o'r safle a'i waredu.

Cafodd April Jones ei chipio gan Bridger wrth iddi chwarae gyda'i ffrindiau ger ei chartref ar ystâd Bryn-y-Gog, Machynlleth ar 1 Hydref 2012.

Cafodd Bridger ei garcharu am oes ym Mai 2013.

Credir bod Llywodraeth Cymru wedi talu £149,000 am y bwthyn, y pris a dalwyd amdano yn 2008.

Does dim cynlluniau hyd yma i'r hyn fydd yn digwydd i'r safle wedi iddo gael ei glirio ond mae sôn y byddai Coral a Paul Jones am weld gardd goffa i April yno.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y gymuned fydd yn penderfynu.

Image copyright Reuters
Image caption Cafodd y bwthyn ei brynu gan Lywodraeth Cymru

Straeon perthnasol