Elfyn Evans yn 5ed: Rali Cymru-GB

rali Cymru-GB
Image caption Dyma oedd wythfed buddugoliaeth Sebastien Ogier mewn 13 ras eleni.

Y Ffrancwr Sebastien Ogier yn ennill Rali Cymru-GB ond y Cymro, Elfyn Evans yn cipio'r 5ed safle.

Roedd Ogier wedi arwain o'r dechrau i'r diwedd i ennill dros Volskwagen, yn rasio drwy draciau fforestydd Cymru 37.6 eiliad o flaen y gŵr o'r Ffindir, Mikko Hirvonen.

Dyma oedd wythfed buddugoliaeth Ogier mewn 13 ras eleni, ac roedd ei dasg yn haws wedi i'w gyd-yrrwyr dros Volskwagen, Andreas Mikkelsen a Jari-Matti Latvala gael damweiniau.

Image caption Ffrwydro'r siampên!

Roedd Hirvonon, ddaeth yn ail, yn cystadlu yn ei ras olaf cyn ymddeol, ac roedd 26 eiliad yn glir oddi wrth Mads Ostberg o Norwy yn ei Citroen.

Roedd hi wedi bod yn frwydr hefyd rhwng Hirvonon a'r Prydeiniwr Kris Meeke tan i Meeke ddifrodi dau deiar a syrthio i lawr i'r chweched safle.

Roedd yn gyfle hefyd i'r Cymro, Elfyn Evans, 25 oed o Ddolgellau, gipio'r bumed salfe yn ei Fiesta RS, er mawr foddhad i'w gefnogwyr.

Elfyn yw mab cyn-bencampwr rali Prydain, Gwyndaf Evans.

80,0000 o wylwyr

Dyma'r ail flwyddyn i Rali Cymru-GB gychwyn o ogledd Cymru, wedi iddo symud o Gaerdydd y llynedd.

Image caption Bu 80,000 o bobl yn gwylio'r rali dros y tri diwrnod.

Roedd y cwrs yn mynd â'r gyrrwyr drwy goedwigoedd Eryri, Sir Ddinbych a Chanolbarth Cymru.

Mae 23 cymal i'r rali, sy'n ymestyn dros dri diwrnod ac yn 191 o filltiroedd i gyd.

Dyma yw'r cymal olaf ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd, ac roedd 106 o gystadleuwyr yn cymryd rhan.

Yn ôl Jonathan Gill, llefarydd ar ran Rali Cymru-GB, roedd oddeutu 80,000 o bobl wedi bod yn gwylio'r rali dros y tri diwrnod.

Straeon perthnasol