Dim sicrwydd: Dyn gyda 'Jihadi John'

Nasser Muthana
Image caption Mae teulu Nasser Muthana "yn siomedig iawn"

Mae tad dyn o Gaerdydd, Nasser Muthana, wedi dweud mai nid ei fab sydd i'w weld mewn llun gyda 'Jihadi John', wedi iddynt dorri pennau milwyr Syria.

Mae Nasser Muthana wedi ei gyhuddo o fod yng nghwmni dynion sydd i'w gweld yn lladd 18 o filwyr Syria.

Mae tad Nasser Muthana, 20 oed o Gaerdydd, wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw ei fab yn ymddangos yn fideo diweddaraf IS.

Ychwanegodd bod y "lluniau'n aneglur" a'i bod hi'n amhosib iddo gadarnhau mai ei fab sydd i'w weld.

Daw'r cyhuddiad yn sgil adroddiad gan The Daily Mail yn honni i Mr Muthana ddweud: "Mae'n edrych fel fy mab."

Roedd y fideo i'w weld ar y rhyngrwyd am awr fore Sul, roedd yn dangos dienyddiad y gweithiwr dyngarol Americanaidd, Peter Kassig.

Mae'r dyn, a gredir i fod yn Muthana yn sefyll ar ochr dde i 'Jihadi John' sydd mewn gwisg ddu a balaclava gyda gweddill y dynion mewn gwisg fyddinol.

Image copyright Reuters
Image caption Ymddangosodd Reyaad Khan, Nasser Muthana a Abdul Rakib Amin mewn fideo propaganda IS.

Daeth Nasser Muthana, 20 oed, i'r amlwg ym mis Mehefin wedi iddo ymddangos mewn fideo propaganda gan y Wladwriaeth Islamaidd a Irac ac al-Sham [Isis] yn annog eraill i ymuno a nhw.

Roedd i'w weld yn sefyll wrth ddyn arall o Gaerdydd ac un dyn o Aberdeen yn y fideo propaganda.

Mae cred i fab arall Ahmed Muthana, Aseel Muthana, fod yn Syria hefyd a dywedodd ef wrth y BBC yn y gorffennol nad oedd bwriad dychwelyd i'r DU.