Holi dyn wedi i ddynes gael ei hanafu yn Aberdâr

Mae dyn yn cael ei holi wedi i ddynes gael ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Caerdydd, Aberdâr tua 13:45 ddydd Llun wedi damwain rhwng cerbyd Skoda arian, Vauxhall Astra a'r ddynes oedd ynn cerdded gerllaw.

Cludwyd y ddynes i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Cafodd ail berson ei anafu a'u gludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tydfil.

Mae dyn yn ei 40au yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad.

Anfonwyd pedwar o gerbydau'r Gwasanaeth Ambiwlans i ymateb i'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad a'r Vauxhaul Astra arian yn mynd yn ei flaen tuag at Aberpennar.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio 101 neu Taclo'r Tacle.