Rhwystredigaeth a gobaith: Dyfodol yr iaith Wyddeleg

Arwydd ffordd Gwyddeleg Image copyright Arall
Image caption Ers Deddf Iaith 2003, mae'r Wyddeleg yn fwy amlwg ar arwyddion ffyrdd

Am saith o'r gloch ar nos Wener, roedd tafarn Tí Chóilí yng nghanol dinas Galway dan ei sang, gyda band lleol yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol yn y gornel a phawb yn mwynhau'r awyrgylch.

Er mai Galway ydi canolfan weinyddol y Gaeltacht, mae'r ddinas ei hun y tu allan i'r cadarnle, ac felly, rhyw un neu ddau, o blith yr ugeiniau yn y dafarn, oedd yn siarad Gwyddeleg

Bu un o aelodau'r band yn sôn am ei rwystredigaeth wrth geisio cysylltu â chyrff cyhoeddus trwy gyfrwng ei famiaith.

"Dydi hi ddim yn hawdd. Os ydach chi'n ffonio a gofyn am siarad hefo rhywun mewn Gwyddeleg, 'dach chi'n teimlo eich bod yn codi gwrychyn pobl neu'n creu trafferth ac yn y diwedd rydach chi'n troi i'r Saesneg er mwyn cael gwasanaeth yn sydyn. Tydi pethau ddim wedi gwella er fod gynnon ni Gomisiynydd sy'n gwneud ei orau."

Gwraig yn ei 60au oedd y llall fu'n siarad hefo fi:

"Os ydach chi'n 'sgwennu llythyr neu'n anfon e-bost mi gewch chi ateb mewn Gwyddeleg, ond os ydach chi'n ffonio mae'n anodd iawn cael rhywun i siarad hefo chi yn syth. Mae'n rhwystredig ofnadwy".

Image caption Ychydig iawn o'r Wyddeleg sydd i'w chlywed yn nhafarndai fel Tí Chóilí, Galway, sydd y tu allan i gadarnle'r iaith

'Lleihau a chrebachu'

18 cilometr i'r gorllewin o ddinas Galway mae tref An Spidéal, sydd o fewn y Gaeltacht, ac yno mae Brian a Beti Uí Bhaoill yn byw.

Mi symudodd Beti o Benmachno i Iwerddon 50 mlynedd yn ôl a magu tri o blant i siarad Cymraeg a Gwyddeleg. Mewn sgwrs dros baned bu hi a'i merch Niamh, sy'n berchen cwmni sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu Gwyddeleg, yn sôn wrtha' i sut mae'r iaith wedi crebachu yn y Gaeltacht dros y blynyddoedd.

Image caption Mae Beti Uí Bhaoill (dde) wedi magu ei phlant, gan gynnwys Niamh (chwith) yn y Gymraeg a'r Wyddeleg

Dywedodd Beti: "Yn bendant mi oedd y cadarnleoedd yn gryfach hanner can mlynedd yn ôl. Maen nhw'n bendant wedi lleihau a chrebachu."

Ychwanegodd Niamh: "Pan oeddwn i'n ferch fach yn Connemara a Donegal, roedd yr iaith i'w chlywed ym mhob man. Mae gen i ddwy ferch fach ac mae nhw yn defnyddio llawer o Saesneg yn eu Gwyddeleg.

"Mae fy mab yn 19 oed yn y Brifysgol yn Galway yn astudio Gwyddeleg, ond dwi ddim meddwl y daw o'n ôl i'r Gaeltacht achos does dim gwaith ar gael."

Ers pasio deddf 2003, oedd yn sefydlu swydd y Comisiynydd Iaith, mae'r Wyddeleg yn fwy gweledol ar arwyddion ffyrdd ac ati, ac mae yna gynnydd bychan iawn yn nifer y siaradwyr.

Rhwystredig

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, rhyw 70,000 sy'n siarad yr iaith yn ddyddiol, ac mae adroddiadau'n awgrymu y bydd y Wyddeleg yn peidio â bod yn iaith fyw yn y Gaeltacht o fewn 15 mlynedd.

Fe wnaeth Seán Ó'Cuirreáin, y comisiynydd blaenorol, ymddiswyddo fis Chwefror oherwydd rhwystredigaeth gydag ymroddiad y llywodraeth tuag at yr iaith, Mae'r comisiynydd presennol, Rónán Ó Domhnaill, yntau'n aml yn teimlo'n rhwystredig.

"Mae'n rhwystredig ceisio ymdrin ag adrannau'r llywodraeth mewn Gwyddeleg oherwydd adre 'dach chi'n siarad yr iaith hefo'ch teulu a ffrindiau, ond wedyn rhaid troi i'r Saesneg wrth siarad a chyrff cyhoeddus," meddai wrtha' i.

"Mi ddywedodd Seán Ó'Cuirreáin fod yna wrthwynebiad o fewn y llywodraeth i roi'r Wyddeleg yn ganolog o ran darparu gwasanaethau, ac mae'n fater y bydd rhaid i ni ganolbwyntio arno a gwthio'r Wyddeleg i frig yr agenda."

Image caption Dechreuodd Rónán Ó Domhnaill ar ei waith fel Comisiynydd y Wyddeleg ym mis Chwefror 2014

'Deddf yn fwy effeithiol'

Cyn y Nadolig mae disgwyl i'r llywodraeth gyhoeddi Deddf Iaith newydd, ac mae'r Comisiynydd Rónán Ó Domhnaill yn credu y dylai'r ddeddf roi mwy o bwyslais ar osod safonau yn hytrach na chynlluniau iaith.

Meddai: "Ers i mi ddechrau'r swydd, 'dwi wedi sylweddoli fod yr hyn sydd ar ddu a gwyn mewn deddf yn fwy effeithiol na chynlluniau iaith, nid yn unig er mwyn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, ond hefyd er mwyn i'r cyhoedd weld yn union be' ydi eu hawliau.

"Dylai'r ddeddf ei gwneud yn ofynnol i weithwyr y llywodraeth sydd wedi eu lleoli yn y Gaeltacht fod yn gallu siarad hefo pobol mewn Gwyddeleg."

Ond mae'r bardd a'r academydd Dr. Diarmuid Johnson yn credu fod yna broblem sylfaenol sydd yn rhwystro'r ymdrechion i gynyddu'r defnydd o'r iaith.

"Hyd y saithdegau, roedd y Gaeltacht yn ddigon cryf i siaradwyr Gwyddeleg gael eu hyfforddi i fod yn rhan o'r peirianwaith llywodraethol ond erbyn hyn mae'r Gaeltacht wedi crebachu i'r fath raddau fel ei bod hi'n ddemograffig amhosib i ddigon o bobl gael eu hyfforddi i weini'r holl wlad," meddai.

Image caption Dywedodd y Comisiynydd Rónán Ó Domhnaill wrth Alun Rhys fod 'deddf yn fwy effeithiol na chynlluniau iaith'

'Rhaid cael gwaith'

Wrth ddod â'r sgwrs hefo Beti a Niamh i ben, mi ofynais sut mae nhw'n gweld y dyfodol.

"Yn y Gaeltacht, mae'r iaith yn gwanhau yn gyflym ac mae safon y Wyddeleg wedi ei glastwreiddio a phan mae plant Niamh yn dod adref o'r ysgol mae bob yn ail air yn Saesneg erbyn hyn", meddai Beti.

Ond mae Niamh yn fwy gobeithiol: " Roedd Osian, y mab, fel 'na," meddai, "ond mae o wedi mynd i'r coleg ac mae o'n siarad Gwyddeleg yn dda iawn.

"Felly mae plant yn mynd trwy gyfnod yn eu bywyd pan mae nhw'n siarad Saesneg ond wedyn mae nhw'n troi nôl i'r Wyddeleg.

"Ond mae'n rhaid i ni gael gwaith i raddedigion yn y Gaeltacht. Os nad oes yna waith, ddôn nhw ddim yn ôl."