Cam yn nes at uno dau gyngor sir

uno dinbych a conwy

Mae cynghorwyr yn siroedd Conwy a Dinbych wedi pleidleisio o blaid anfon mynegiant o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag uno'r ddwy sir yn wirfoddol.

Pe bai Llywodraeth Cymru'n derbyn y cais a bod y cynlluniau yn mynd rhagddynt, dyma fyddai'r cynghorau cyntaf yng Nghymru i benderfynu uno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am weld nifer y cynghorau yng Nghymru yn gostwng i 12 neu 10 a hynny yn seiliedig ar gasgliadau Comisiwn Williams.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddai uno'n lleihau cost llywodraeth leol ac yn gwella rheolaeth.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod dyddiad cau o ddiwedd Tachwedd er mwyn i gynghorau Cymru ddatgan diddordeb mewn uno yn wirfoddol.

Ym mis Medi, fe wnaeth cynghorwyr y ddwy sir, mewn cyfarfodydd ar wahân, benderfynu ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd o uno - pe bai hynny, meddant, yn cynnig manteision ariannol.

Cynllun busnes

Fe wnaeth y cynghorwyr gwrdd eto ddydd Llun a chytuno i fwrw mlaen gyda'r cynllun.

Dywedodd llefarydd ar ran y ddau gyngor fod cyfarfodydd eisoes wedi eu cynnal gyda swyddogion Llywodraeth Crymu a hefyd gyda Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Yn ddibynol ar ymateb Llywodraeth Cymru i gais y cynghorau heddiw, dywedodd y llefarydd y byddant yn dechau llunio cynllun busnes o blaid uno, a'i gwblhau erbyn 2015.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans: "Ni oedd y cynghorau cyntaf yng Nghymru i fynegi diddordeb yn gyhoeddus yn y posibilrwydd o uno ag awdurdod cyfagos, ond rhaid i ni wneud yn glir bod hyn yn fynegiant o ddiddordeb ac nid yn achos busnes llawn ar gyfer uno.

"Rydym wedi cytuno i edrych ar yr opsiynau yn ffurfiol, gyda'r bwriad o ystyried cyflwyno achos busnes llawn yn yr haf. Credwn fod nifer o resymau pwysig dros symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Conwy, y Cynghorydd Dilwyn Roberts: "Mae yna debygrwydd rhwng yr ardaloedd awdurdod lleol - gallai arbedion cost gael eu gwneud.

"Mae cefnogaeth galonogol gynnar gan Lywodraeth Cymru ac mae manteision i uno gwirfoddol dros symudiad gorfodol, ond mae hefyd risgiau i reoli'r broses uno a'r canlyniad. Bydd hyn i gyd yn cael ei ystyried pan fydd achos busnes llawn yn cael ei lunio."

Straeon perthnasol