Pwy fydd Gatland yn eu dewis?

Warren Gatland Image copyright Getty Images
Image caption Bydd angen i Warren Gatland feddwl yn galed cyn cyhoeddi'i dîm

Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan i wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn cyn hanner dydd, ddydd Mawrth.

Eisoes mae hyfforddwr Cymru wedi cael sawl darn o newyddion da cyn gwneud ei ddewis, ond mae ambell gur pen wedi dod i'r amlwg hefyd oherwydd digwyddiadau'r dyddiau diwethaf.

Y newyddion da i ddechrau - fe ddywedodd yr hyfforddwr cynorthwyol Rob Howley wrth y wasg ddydd Llun bod nifer o chwaraewyr oedd wedi eu hanafu'n gwella.

Mae'r cefnwr Leigh Halfpenny, y maswr Dan Biggar a'r canolwr Jonathan Davies i gyd wedi bod yn ymarfer ar ôl anafiadau, ac mae disgwyl hefyd i'r mewnwr Rhys Webb fod yn holliach i herio'r Crysau Duon.

Mwy o benbleth yw beth i wneud â safle'r bachwr.

Fe gafodd Richard Hibbard ei ryddhau o ddyletswydd ryngwladol y penwythnos diwethaf gan fod y tîm hyfforddi'n credu fod ganddo anaf bach - er hynny aeth Hibbard yn ôl i'w glwb, Caerloyw, a dod ymlaen fel eilydd am ddeng munud olaf eu gêm nhw nos Wener.

Er bod Howley'n dweud bod yr anghydfod yna wedi'i ddatrys yn dilyn sgwrs rhwng y bachwr a Gatland, mae'r bennod yn amlwg wedi achosi cynnwrf, a go brin fod Hibbard ar frig rhestr chwaraewyr mwyaf poblogaidd Gatland ar hyn o bryd.

Ar ôl buddugoliaeth flêr yn erbyn Fiji, roedd ffaeleddau tîm a fethodd sgorio yn erbyn 14 dyn yr ymwelwyr yn yr ail hanner yn boenus o amlwg, ac mae'n annhebygol y bydd unrhyw un o'r tîm yna wedi gwella'u cyfle o gael eu dewis i'r gêm fawr nesaf.

Yn wir, fe fyddai Seland Newydd wedi gwirioni o weld cymaint o gamgymeriadau, ond fe fydd un perfformiad wedi achosi penbleth o fath gwahanol i Gatland.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Liam Williams gêm ardderchog yn erbyn Fiji

Seren y gêm yn erbyn Fiji ym marn llawer oedd Liam Williams, ond os fydd Halfpenny, Cuthbert, North a Jonathan Davies yn iach tybed fydd lle yn y tîm i chwaraewr amryddawn y Scarlets?

Dywedodd Howley ddydd Llun: "Bydd y cyfarfod i ddewis y tîm yn digwydd heno, a fydd e ddim yn gyfarfod byr.

"Mae dull Liam o wrthymosod, ei allu i guro'r amddiffynnwr cyntaf a'i chwarae o ran safle yn dda iawn yn erbyn Fiji. Mae'n dda cael chwaraewr fel hyn yn erbyn ciciwr gwych fel Leigh Halfpenny.

"Dim ond tri chwaraewr y medrwn ni ddewis i'r tri ôl, ac mae'r dewis yn wir allweddol.

"Fe fyddwn ni'n ystyried popeth, ac mae angen i ni ddewis y tîm cywir yn erbyn Seland Newydd fydd yn wahanol iawn i'r 15 chwaraeodd i'r Alban dros y penwythnos."

Fe gawn ni'r atebion i'r holl gwestiynau amser cinio ddydd Mawrth.

Straeon perthnasol