Mesur cynllunio yn 'bygwth' caeau gwyrdd

Caeau gwyrdd Maes-y-Deri, Talybont
Image caption Fe lwyddodd preswylwyr stad dai yn Nhalybont, Ceredigion, i atal datblygiad ar y darn hwn o dir gwyrdd

Fe allai ardaloedd naturiol yn rhai o drefi a phentrefi Cymru gael eu dinistrio gan newidiadau i'r system gynllunio, yn ôl ymgyrchwyr dros feysydd gwyrdd.

Maen nhw'n honni fod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n fwy anodd i gymunedau gofrestru caeau gwyrdd a rhwystro datblygwyr rhag adeiladu arnyn nhw.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud fod rhai ceisiadau i warchod tir yn wastraffus, a bod y system weithiau'n cael ei defnyddio er mwyn llesteirio'r broses ddatblygu.

Nid yw'n bosib adeiladu ar dir sydd wedi cael ei gofrestru fel safle gwyrdd.

Mae'n rhaid i geisiadau ar gyfer y math hwn o dir ddangos fod pobl wedi bod â'r hawl i ddefnyddio'r safle ers o leia' 20 mlynedd.

Petai'r mesur yn cael ei gymeradwyo, fydd dim modd cofrestru meysydd gwyrdd os oes cynlluniau eisoes i ddatblygu arnyn nhw.

'Torri calonnau'

Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau bod cymunedau'n aml ond yn dod i wybod bod angen cofrestru meysydd gwyrdd pan fo ceisiadau'n dod i law i adeiladu arnyn nhw.

Dywedodd Jay Kynch, llefarydd ar ran Cymdeithas Mannau Agored: "Bydd pobl yn torri'u calonnau os na fyddan nhw'n gallu cofrestru eu meysydd gwyrdd, ac mae'n gwbl anghywir eu bod nhw'n cael eu gwthio i'r neilltu.

"Rydyn ni'n amddiffyn mwynhad y cyhoedd o feysydd agored a'r hawl i'w defnyddio, ac mae hyn yn rhan o hynny."

Ychwanegodd y grŵp eu bod yn "siomedig" nad oedd Gweinidog Adnoddau Naturiol Cymru Carl Sargeant wedi ymateb i'w hargymhellion nhw ar gyfer "symleiddio a chyflymu'r broses gofrestru heb amharu ar bobl leol na newid y gyfraith".

Ond mae Steve Jones, prif weithredwr cymdeithas Tai Ceredigion, yn dweud fod brwydro'n erbyn ceisiadau i gofrestru caeau gwyrdd yn mynd ag adnoddau.

Mae'n wynebu un cais tebyg ym Maesglas, Aberteifi, ble mae cais y gymdeithas i godi 12 o gartrefi wedi'i wrthod.

Mae pobl leol eisiau cadw'r tir fel ardal chwarae i blant. Bydd y cais i gofrestru'r tir fel caeau gwyrdd yn mynd o flaen gwrandawiad cyhoeddus ym mis Rhagfyr.

Meddai Mr Jones: "Byddwn i'n croesawu'r newid i'r ddeddfwriaeth gan fod y sefyllfa bresennol yn caniatáu pobl i'w gamddefnyddio er mwyn atal datblygiad tai pan bod angen am dai."

'Llesteirio datblygiad'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyw'r drefn bresennol ddim yn atal pobl rhag gwneud ceisiadau "gwastraffus" ar gyfer caeau gwyrdd.

"Mae tystiolaeth wedi dod i law yng Nghymru fod rhai achosion o geisiadau i gofrestru caeau gwyrdd mewn trefi neu bentrefi wedi'u cyflwyno fel modd o lesteirio datblygiad, yn hytrach nag i amddiffyn safle penodol o dir," meddai llefarydd.

"Dim ond atal cofrestru ardaloedd gwyrdd newydd - ble mae tir wedi bod trwy, neu yn mynd trwy'r broses gynllunio statudol - fydd y cynigion yn y Mesur Cynllunio.

"Mae'r broses gynllunio'n rhoi cyfle i bobl gyflwyno dadleuon am ddefnydd o dir fel ardal wyrdd mewn modd agored, deg a thryloyw."

Mae rhai ACau sy'n gwrthwynebu'r newidiadau - gan gynnwys AC Plaid Cymru, Elin Jones - wedi dweud y byddan nhw'n ceisio addasu'r mesur.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.