Wastad ar y Tu Fas

Un o'r tasgau sy'n wynebu newyddiadurwyr gwleidyddol o bryd i'w gilydd yw canfod ffordd o wneud straeon ynghylch y broses wleidyddol yn ddifyr ac yn berthnasol i bobol y tu hwnt i swigod San Steffan a'r Bae. Mae straeon felly, pa mor bynnag bwysig, yn gallu bod yn sych fel llwch ac anodd yw cyfleu eu harwyddocâd. Stori felly sy gen i heddiw.

Ar hyn o bryd mai setliad cyfansoddiadol newydd yn cael ei lunio i Gymru. Y gobaith, ymhlith y pleidiau Prydeinig o leiaf, yw y bydd y setliad hwnnw'n profi'n fwy hirhoedlog na chynlluniau 1998 a 2006, ond sut mae'r setliad hwnnw'n cael ei lunio?

Does dim dwywaith bod Carwyn Jones yn credu dylid trin y mater fel un rhynglywodraethol. Am y rheswm hynny sicrhaodd y Llywodraeth gefnogaeth gwrthbleidiau'r Cynulliad i gynnig ar y cyd yn rhestri gofynion Cymru. Dyma ddywedodd Carwyn Jones wrth gyflwyno'r cynnig hwnnw.

"Fodd bynnag, cydnabyddir erbyn hyn, wrth gwrs, fod pobl Cymru'n dal grym eu hunain. Mater iddynt hwy yw penderfynu pa bwerau y maent am eu cael, a pha bwerau y maent am eu gweld yn cael eu trin ar lefel y DU... Yr hyn sy'n bwysig heddiw, wrth gwrs, yw bod cydnabyddiaeth mai mater i bobl Cymru yw penderfynu pa bwerau y maent am eu gweld yn y lle hwn, a pha bwerau y maent am eu gweld yn Llundain ac yn wir yn yr Undeb Ewropeaidd yn ehangach."

Gyda'r cynnig i'w harfogi roedd y Llywodraeth yn barod i siarad ar ran pobl Cymru ond nid dyna sydd wedi digwydd. Dyma i chi ran o araith Stephen Crabb i'r Sefydliad Materion Cymreig ddoe.

"I have already begun that dialogue, and had a very productive and constructive discussion last month with the Welsh leaders of the political parties at Westminster. We will be meeting again next week to continue our discussions. And, of course, I shall be meeting the leaders of the four parties here in the Assembly to hear their views. I know that those leaders have themselves been discussing future devolution and, last month, the Assembly approved a cross-party motion setting out its priorities for the future of devolution in Wales. I look forward to discussing those priorities with the party leaders soon."

Dyw geiriau'r Ysgrifennydd Gwladol ddim yn amwys. Mae safbwynt Owen Smith - y gwleidydd wnaeth fathu'r slogan 'One Nation Labour' - yr un mor bwysig ac un Carwyn ac fe fydd pethau'n cael eu sgwario yn San Steffan cyn gwahodd gwleidyddion y Bae at y bwrdd.

Mater o broses yw hynny wrth gwrs - ond proses a allai fod ac effeithiau pellgyrhaeddol iawn o safbwynt statws cyfansoddiadol Cymru.