Galw am sefydlu corff annibynnol i'r Gymraeg

Meri Huws
Image caption Mae Gareth Jones yn aelod o banel sy'n cynghori Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws

Mae aelod o banel sy'n cynghori Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen sefydlu corff annibynnol i graffu ar bolisïau iaith y llywodraeth a hyrwyddo'r Gymraeg.

Yn ôl y cyn Aelod Cynulliad, Gareth Jones, dydy'r system bresennol ddim yn annibynnol. Mae'n dweud bod yna gysylltiad rhy glos rhwng Comisiynydd y Gymraeg a'r llywodraeth a bod ymyrraeth y llywodraeth ynglŷn â'r safonau iaith wedi dangos hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod y Comisiynydd yn gyfan gwbl annibynnol.

Doedd Meri Huws ddim am wneud sylw.

Mi oedd y Gweinidog oedd a chyfrifoldeb dros yr iaith ar y pryd, Leighton Andrews, wedi gwrthod y safonau gafodd eu hargymell gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2013 gan ddweud nad oedden nhw'n ddigon eglur.

Erbyn hyn mae safonau newydd wedi eu llunio gan y llywodraeth.

Dim digon o graffu

Yn ôl Gareth Jones, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai ariannu'r corff newydd, ac mae'n dweud mai'r realiti ydy nad oes digon o graffu yn digwydd ar bolisïau iaith.

Dywedodd: "Pwy sydd yn rhoi prawf ar strategaethau'r llywodraeth? Pwy sydd yn dweud pa mor effeithiol ydyn nhw? Wel y llywodraeth."

Mae Gareth Jones yn dweud y dylai'r corff fedru dwyn gweinidogion i gyfri ac argymhell a sicrhau newidiadau.

Ond nid siop siarad na fforwm fyddai hyn, meddai.

"Lle mae 'na ffaeleddau, lle mae 'na wendidau a diffyg twf yna mi fydden ni'n disgwyl i'r math yma o gorff gael yr awdurdod i wneud rhywbeth ynghylch hynny."

Pryderon

Diffyg twf mewn dwyieithrwydd yng Nghymru ydy un o bryderon Gareth Jones. Mae o hefyd yn poeni am ffigyrau diwethaf y Cyfrifiad oedd yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr sydd yn medru'r iaith.

Mae'n dweud bod nifer yn frwd dros yr iaith ac yn lobio drosti, ond bod yr amser hynny wedi dod i ben erbyn hyn.

"Dagra' pethau ydy dydy pethau ddim yn symud yn ddigon cyflym yng Nghymru. Mae'n rhaid i chi ofyn y cwestiwn, pam?

"A'r cwestiwn ydy yn aml mae'r polisïau yn eu lle ond does dim digon o frwdfrydedd na chraffu na monitro ar sut mae'r polisïau yna yn cael eu gweithredu."

Rhy hwyr?

Ar raglen Dylan Jones fore Mercher, bu Gareth Jones yn son rhagor am ei alwadau.

"Yr ofn sy' genna' i - er y polisïau a'r oll sy'n cael ei ddweud a'r ceisio cael llwyddiant ym mhob agwedd o fywyd yn ymwneud â'r Gymraeg, dydy'r cynnydd tuag at ddwyieithrwydd ddim yn digwydd ar y cyflymder fyswn i ac eraill dwi'n trafod efo nhw'n hoffi," meddai.

Dydy'r comisiynydd Meri Huws ddim am wneud unrhyw sylw ar y mater, a dywedodd Mr Jones ei bod yn "ddyddiau cynnar" i'r swydd ac mai'r flaenoriaeth oedd "creu'r hinsawdd a'r sefyllfa ar gyfer defnyddio'r Gymraeg".

"Be' 'dwi'n sôn am ydy'r polisïau sy'n hyrwyddo dwyieithrwydd, ac mae hynny'n gyfangwbl yn nwylo Llywodraeth Cymru," ychwanegodd Mr Jones.

"Lle byddwn ni mewn 10, 20, hanner can mlynedd? Ar y raddfa yma, mae'n amlwg y bydd hi'n rhy hwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfan gwbl ac yn gyfansoddiadol annibynnol.

"Ei rôl yw cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi iaith a chraffu ar ein polisïau, yn ogystal â hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg."

Straeon perthnasol