Tân yn Y Rhyl: Canfod corff dyn

Stryd Sussex Image copyright Google

Mae diffoddwyr wedi canfod corff dyn yn dilyn tân yn Y Rhyl.

Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i adeilad ar Stryd Sussex yn y dre' toc wedi hanner nos.

Mae ymchwiliad ar droed i ganfod beth achosodd y tân.