Rheithgor yn ystyried dyfarniad John Allen

John Allen Image copyright Julia Quenzler

Mae'r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad yn achos cyn reolwr cartref plant sydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Mae John Allen, sy'n 73 ac o Needham Market yn Suffolk, yn gwadu 40 cyhuddiad o gam-drin rhywiol yn erbyn 19 o fechgyn ac un ferch rhwng y 1960au a'r 1990au.

Roedd Mr Allen yn rheoli cartrefi yn ardal Wrecsam oedd yn cael eu hadnabod fel cartrefi Bryn Alyn.

Wedi achos wnaeth barhau am saith wythnos yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad ychydig cyn 12:00yh ddydd Mercher.