Angen 'tegwch' i sicrhau dyfodol i'r diwydiant llaeth

Gwartheg Image copyright Thinkstock

Mae angen llawer mwy o degwch yng nghadwyn cyflenwi llaeth, yn ôl un o arweinwyr y diwydiant yng Nghymru.

Ar raglen Manylu ar Radio Cymru dywedodd Cadeirydd pwyllgor llaeth yr NFU, Aled Jones, bod rhai ffermwyr yn wynebu trafferthion ariannol dybryd, gan fod y pris mae ffermwyr yn ei gael am eu cynnyrch wedi gostwng yn sylweddol yn y misoedd diwethaf.

Mae archfarchnadoedd yn brwydro yn ffyrnig i gynnig y prisiau rhataf ar laeth, ond mae un grŵp yn rhybuddio y gall hynny orfodi ffermwyr i adael y diwydiant.

Bydd dau adroddiad annibynnol i'r diwydiant llaeth yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

'Difrifol o anodd'

Dywedodd Aled Jones bod y sefyllfa'n "ddifrifol o anodd" i ffermwyr.

"Mi oeddwn i'n siarad hefo rhywun y diwrnod o'r blaen oedd yn cael trafferth hefo llif arian. Ac o hyn allan mi fydd na broblemau oherwydd rŵan mae'r toriadau yma yn dechrau brathu," meddai.

Image caption Mae Aled Jones am weld ffermwyr yn cael prisiau 'tegach' am eu cynnyrch

"Be' faswn i yn licio ei weld ydi masnach deg i bob rhan yn y gadwyn, y cynhyrchwr, y prosesydd a'r sawl sydd yn ei werthu fo yn cael rhan deilwng o'r elw.

"Mae 'na gôd gwirfoddol rhwng y ffermwr a'r prosesydd. Be' hoffwn i ei weld ydi trefniant tebyg rhwng y prosesydd a'r archfarchnadoedd. Fel arall, ni fydd un partner yn y gadwyn yn medru goroesi."

Pam bod prisiau yn gostwng?

  • Gor gynhyrchu ar draws y byd yn sgil tywydd mwyn dros y misoedd diwethaf
  • Rwsia yn gwahardd mewnforion o gynnyrch llaeth o Ewrop oherwydd y ffrae am ymyrryd yn Iwcrain
  • Allforion i China yn anwadal.

Erbyn y Nadolig, bydd rhai ffermwyr wedi gweld gostyngiad o ddeg ceiniog y liter yn y pris maen nhw yn ei gael am laeth. Dros gyfnod o fisoedd mae hynny'n golygu degau o filoedd o bunnau yn llai o incwm.

Mae'r pryder wedi codi yn ystod cyfnod o frwydro mawr rhwng yr archfarchnadoedd i werthu llefrith am y pris rhataf.

Cwmni Iceland sy'n honni mai nhw sydd a'r llefrith rhataf ar hyn o bryd - 89 ceiniog am bedair peint.

Mae'r grwp Farmers for Action wedi cynnal protestiadau gan rybuddio y bydd rhai ffermwyr yn cael eu gorfodi i adael y diwydiant os yw'r prisiau cynnyrch isel yn parhau.

Ond mae nifer y ffermwyr llaeth yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd - er nad ydi faint o lefrith sy'n cael ei gynhyrchu wedi lleihau gan bod y ffermwyr sy'n weddill wedi ehangu.

Yn 2003, roedd 2909 o ffermwyr llaeth yng Nghymru, ond gostyngodd y ffigwr i 1895 erbyn 2013.

Image caption Penderfynodd Lyn Thomas adael y diwydiant yn lle buddsoddi yn ei fferm

Un wnaeth adael flwyddyn yn ôl ydi Lyn Thomas o Lanpumsaint, Sir Gaerfyrddin.

Mr Thomas oedd trydedd cenhedlaeth y teulu i gadw gwartheg godro, ond heb blant i'w ddilyn nid oedd am fuddsoddi ymhellach yn y fuches laeth.

"Dim ond i roi parlwr godro newydd i mewn byddai rhwng £50,000 a £70,000. Byddai angen ail 'neud y siediau i gyd ar y cyd â'r parlwr.

"Byddai angen mwy o wartheg a mwy o ddaear i'r anifeiliaid. Dwi'n credu mai'r lleiafswm fyddai £150,000 i £200,000."

'Helpu ein hunain'

Ond gwahanol iawn ydi'r darlun ym Mhen Llyn lle mae Rhys a Kelly Williams wedi penderfynu ehangu a dechrau godro o'r newydd ar fferm Trygarn, Sarn Mellteryn.

"Dwi'n teimlo'n gryf bod yn rhaid i ffermwyr helpu eu hunain yn gyntaf a dwi'n meddwl fod 'na lot o le i lot o fusnesau dynhau ar eu costau a bod mwy gofalus."

Image caption "Yr unig ffordd o wneud i'r fferm dalu am ei hun oedd godro yma a godro dwi wedi ei wneud erioed," meddai Rhys Williams - sydd wedi penderfynu ehangu

Mae gwleidyddion yng Nghaerdydd a San Steffan yn cynnal ymchwiliadau yn sgil pryderon am y diwydiant.

Mae dirprwy weinidog amaeth Cymru, Rebecca Evans wedi comisiynu adolygiad annibynnol, a mae Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan sy'n cyfarfod ddydd Mawrth nesaf.

Bydd y ddau adroddiad yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Bydd Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30, ddyddIau Tachwedd 20.

Straeon perthnasol