Seland Newydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymru v Seland Newydd - Dwy Wlad, Un Cyfle, Un Nod

20 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 14:01 GMT

Am 1730 nos Sadwrn mi fydd sylw'r Cymry yn troi at Stadiwm y Mileniwm wrth i Sam Warburton arwain y tîm rygbi cenedlaethol i'r maes i herio'r Crysau Duon. Ochr arall y byd mi fydd hi'n 0630 yn Seland Newydd lle bydd cefnogwyr rygbi'r wlad wedi deffro yn barod i wylio'r gêm.

Yr actores sydd yn nawr yn gweithio yn Hollywood, Erin Richards sydd yn lleisio agoriad rhaglen Clwb Rygbi yr wythnos hon ac yn ein paratoi ar gyfer beth fydd her fwyaf yr hydref i Gymru hyd yn hyn mae'n siwr. Mae'r actores o Benarth i'w gweld yn un o ddramâu mwyaf y sgrin fach yn America ar hyn o bryd, sef Gotham.

Bydd y gêm i'w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi ar S4C ddydd Sadwrn gyda'r rhaglen yn dechrau am 1700 a'r gic gyntaf am 1730. Yn rhan o'r tîm yr wythnos hon fydd Gareth Edwards, Ken Owens a Dwayne Peel.