Caerdydd 2-1 Reading

Image copyright Getty Images

Caerdydd 2-1 Reading

Buddugoliaeth i Gaerdydd wedi i un o chwaraewyr Reading gael ei ddanfon o'r cae.

Aeth Caerdydd ar y blaen diolch i gôl gan chwaraewr Reading, Alex Pearce.

Ac o ddrwg i waeth aeth y gêm i Pearce wrth iddo gael ei anfon o'r cae ychydig funudau cyn diwedd yr ail hanner.

Yn y munud olaf cyn y chwiban sgoriodd Peter Whittingham i roi mantais o 2-0 i Gaerdydd ar yr hanner.

Wedi 81 munud sgoriodd Michael Hector i Reading, ond erbyn hynny roedd hi'n rhy hwyr i newid y canlyniad terfynol - buddugoliaeth i Gaerdydd.