Arfau a bwledi yn cael eu hildio

Dyfed-Powys Police Chief Inspector Ieuan Matthews with gun amnesty haul Image copyright Dyfed-Powys Police
Image caption Prif Arolygydd Ieuan Matthews gyda rhai o'r gynnau

Mae dros 150 o arfau wedi cael eu hildio i'r heddlu mewn cyfnod o bythefnos fel rhan o raglen amnest.

Roedd yr ymgyrch yn annog pobl i ildio gynnau anghyfreithlon, gynnau ffug neu hen ddrylliau ynghyd â bwledi.

Dywed heddluoedd De Cymru, Dyfed-Powys a Gwent iddynt dderbyn cyfanswm o 100 o arfau.

Heddlu'r Gogledd lwyddodd i gasglu'r rhif uchaf, ac er nad yw'r ffigyrau terfynol i law dywedodd llefarydd fod oleiaf 50 wedi dod i law.

Yn ogystal â nifer sylweddol o fwledi roedd yr arfau yn gynnwys gynnau llaw, drylliau a gynnau dau faril.

Dywedodd y prif arolygydd Ieuan Matthew o Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymateb wedi bod yn anhygoel.

"Rydym am gadw ein cymunedau yn ddiogel a drwy gael gwared ar y gynau a'r bwledi yma, dyna'n union rydym yn ei wneud. "