Cymru 16-34 Seland Newydd

Rhys Webb scores a try for Wales v ew Zealand Image copyright PA
Image caption Rhys Webb yn croesi

Gyda'r Crysau Duon yn sgorio 19 o bwyntiau mewn tua chwarter awr mae record Seland Newydd o beidio â cholli i Gymru ers 1953 yn parhau yn gyflawn.

Roedd Cymru yn dal yn y gem ac ar y blaen ar adegau yn Stadiwm y Mileniwm hyd y 67 munud .

Ond yn y diwedd roedd hi'n fuddugoliaeth gyffyrddus, y Crysau Duon yn ôl eu harfer yn gwbl glinigol.

Mae'n golygu fod Seland Newydd wedi ennill 26 gem yn olynol yn erbyn Cymru.

O'r dechrau roedd hi'n gem gorfforol a chystadleuol rhwng y ddau dîm.

Daeth hanner cyfle yn gynnar yn y gem i'r asgelwlr Geroge North wrth i Gymru atal ymosodiad gan y Crysau Duon ac wrth i'r bêl rydd gael ei chicio mlaen. Ond gyda'r cae gwag o'i flaen fe laniodd y bêl yn angharedig i'r asgellwr.

Pwysau

Aeth Cymru ar y blaen gyda chic gosb. Mewn hanner cyntaf cystadleuol fe darodd y Crysau Duon yn ôl, a hynny ar ôl i Barrett fethu cic gosb arall ychydig funudau ynghynt.

Roedd hi'n ymddangos fod sgrym Cymru dan gryn bwysau, gan ildio sawl cic gosb i'r ymwelwyr.

Image caption Jamie Roberts yn ceisio canfod bwlch yn amddiffynfa Seland Newydd

Cafodd y prop Paul James rybudd y byddai cic gosb arall yn ei weld yn derbyn cerdyn melyn.

Yn 10 munud olaf hanner cyntaf roedd amddiffyn Cymru dan warchae gyda Seland newydd yn pwyso yn y 22.

Ailgylchu

Parhaodd yr ymwelwyr i wasgu wedi'r hanner, gyda llinell Cymru dan bwysau. Er i Gymru lwyddo i gipio'r bêl oddi ar Seland Newydd, cafodd Halfpenny ei ddal yn ceisio rhedeg y bêl, a symudodd y Crysau Duon y bêl i Julian Savea a groesodd am gais cynta'r gem.

Ond fewn llai na phum munud fe roedd Cymru yn gyfartal.

Taulupe Faletau yn torri'r llinell a phas amserol i Rhys Webb yn caniatáu i'r mewnwr groesi o dan y pyst.

Ac ar ôl i'r Crysau Duon droseddu fe lwyddodd Halfpenny i gicio Cymru ar y blaen.

Fe ddaeth McCaw yn agos i'r llinell gyda rhediad cryf lawr yr asgell, ond fe lwyddodd y Crysau Duon i ailgylchu a fe wnaeth cic ar draws y cae arwain i ail gais yr ymwelwyr gyda'r blaenasgellwr Jerome Kaino yn croesi.

Ond fe fethodd Barrett gyda'r trosgic syml, a gyda McCaw yn troseddu fe lwyddodd Halfpenny i roi Cymru nol ar y blaen 16-15.

Ond mewn cyfnod o bum munud fe lithrodd y gem o afal Cymru.

Fe lwyddodd Beauden Barrett i gwrso cic ei hun a chroesi. Daeth cais arall wrth i'r wythwr Read rwystro cic Mike Philips, casglu'r bêl a chroesi.

Doedd y sgorio ddim drosodd. Cic arall ar draws y cae yn canfod Smith ar yr asgell, a fo'n gwyro'r bêl i Barrett.

Seland Newydd yn sgorio 19 o bwyntiau mewn cyfnod o 'chydig dros 15 munud - heb i Gymru allu ymateb.

Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Rhys Webb, Paul James, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Rhodri Jones, Luke Charteris, Justin Tipuric , Mike Phillips, James Hook, Liam Williams.

Seland Newydd: Ben Smith; Charles Piutau, Conrad Smith, Sonny Bill Williams, Julian Savea; Beauden Barrett, Aaron Smith; Wyatt Crockett, Dane Coles, Owen Franks, Brodie Retallick, Sam Whitelock, Kieran Read, Richie McCaw (capten), Jerome Kaino.

Eilyddion: Keven Mealamu, Joe Moody, Charlie Faumuina, Patrick Tuipulotu, Liam Messam, TJ Perenara, Colin Slade, Ryan Crotty.

Image copyright PA
Image caption Roedd hi'n gem agos tan y chwarter awr olaf

Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)