Damwain ddifrifol yn cau rhan o'r A470

Roedd damwain ddifrifol wedi cau rhan o'r A470 i'r de o Aberhonddu am nifer o oriau ddydd Sul.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r safle ger canolfan addysg awyr agored y Storey Arms tua 14:10.

Mae'n ymddangos bod dau gerbyd wedi taro yn erbyn ei gilydd.

Dywedodd yr heddlu fod y ddamwain yn un ddifrifol a'u bod wedi cau'r ffordd wrth i'r awdurdodau brys ymateb.

Cafodd yr A470 ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A4215 a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.