Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn damwain ar yr A470

Rhydian Dafydd Andrew Richard Image copyright Dyfed Powys Police/family
Image caption Bu farw Rhydian Dafydd Andrew Richard wedi i'w feic modur daro yn erbyn car ar yr A470 ddydd Sul

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau enw dyn fu farw mewn damwain ar yr A470 ger Aberhonddu ddydd Sul.

Roedd Rhydian Dafydd Andrew Richards yn 21 oed ac yn dod o Donna, ger Castell-nedd.

Cafodd yr awdurdodau brys eu galw i'r safle ger canolfan addysg awyr agored y Storey Arms tua 14:10.

Roedd dau feic modur wedi taro yn erbyn BMW, a bu farw Mr Richards, un o'r beicwyr modur, yn ddiweddarach.

Fe gafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A4215 a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd am rai oriau er mwyn i swyddogion gael ymchwilio.

Roedd yr A470 wedi cael ei hailagor erbyn bore dydd Llun.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad.

Straeon perthnasol