Llofruddiaethau Clydach: Apêl o'r newydd

Bu farw Mandy Power, ei merched Katie ac Emily, a'i mam Doris Dawson
Image caption Bu farw Mandy Power, ei merched Katie ac Emily, a'i mam Doris Dawson

Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi cadarnhau fore Llun eu bod nhw wedi cael cais am apêl newydd gan ddyn sydd wedi ei garcharu am oes am lofruddio tair cenhedlaeth o'r un teulu yng Nghlydach.

Dyma'r eildro i David Morris apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Cafodd Morris ei garcharu yn 2006 am ladd Mandy Power, ei merched Katie, 10, ac Emily, oedd yn wyth oed, ynghyd â'r fam-gu Doris Dawson, yn eu cartref yn 1999.

Roedden nhw wedi cael eu curo i farwolaeth gyda pholyn.

Chafodd apêl diwethaf Morris yn 2008 ddim ei gyfeirio at y Llys Apêl.

Ddydd Sul, fe gyhoeddodd y Mail on Sunday erthygl yn honni fod tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg ers yr achos llys yn 2006.