Codiad cyflog o bron i £10,000 i ACau?

Y Senedd, Bae Caerdydd
Image caption Mae'r Bwrdd Taliadau o'r farn y dylai cyflogau ACau yn y Cynulliad nesa' adlewyrchu'r ffaith bod ganddyn nhw fwy o gyfrifoldebau yn sgil datganoli pellach

Fe ddylai ACau gael codiad cyflog o bron i £10,000 ar ôl etholiadau nesaf y cynulliad yn 2016, yn ôl y corff sy'n pennu cyflogau a chostau'r aelodau.

Mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynghori ar newidiadau ar gyfer y pumed tymor.

Maen nhw'n argymell codi cyflog sylfaenol AC o £54,390 n 2015/16 i £64,000 ar ôl yr etholiad.

Yna byddai cyflog yn codi neu'n disgyn yn unol ag enillion cyfartalog yng Nghymru.

Mae'r Bwrdd hefyd yn gwneud nifer o gynigion ar gyfer swyddi eraill, gan gynnwys y Prif Weinidog, y Cabinet, y Llywydd a chadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad.

Mwy o gyfrifoldebau

Dywedodd Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau: "Fel swyddogion annibynnol sy'n gwneud penderfyniadau, ein nod yw pennu lefelau cyflog sy'n briodol ar gyfer cyfrifoldebau cynyddol y sefydliad democrataidd pwysicaf yng Nghymru.

"Bydd y Pumed Cynulliad, sy'n dechrau yn 2016, yn Senedd lawn fel y rheiny yn San Steffan a'r Alban, gyda phwerau deddfu a phennu trethi, a dylanwad pellgyrhaeddol ar fywyd yng Nghymru.

"Yn sgil cyfrifoldebau newydd, bydd disgwyliadau newydd ar Aelodau'r Cynulliad. Rydym yn cynnig cyflog i Aelodau'r Cynulliad sy'n adlewyrchu pwysau'r cyfrifoldeb sydd arnynt.

"Mae ein cynigion ar gyflog yn rhan o becyn o newidiadau. Felly, tra bydd y newid yn y cyflog sylfaenol yn costio tua £580,000 yn 2016-17, bydd hanner hwnnw (£290,000) yn cael ei wrthbwyso gan arbedion yr ydym yn eu gwneud yng nghynllun pensiwn yr Aelodau ac mewn gostyngiadau i rai o'r cyflogau ychwanegol a delir i Weinidogion a swydd ddeiliaid eraill."

Image caption Byddai cyflog sylfaenol ACau yn codi o £54,390 i £64,000 ar ôl yr etholiad yn 2016

Holi barn y cyhoedd

Mae'r cynigion - fel pob cynnig a wneir gan y Bwrdd - bellach yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae'r Bwrdd yn annog pobl i ymateb.

Ychwanegodd Mr Blair: "Yn amlwg, mae pobl yng Nghymru yn wynebu amgylchiadau economaidd anodd ac mae pwysau mawr ar wariant cyhoeddus.

"Ond dyna'n union pam y mae angen i Gymru ddenu'r bobl o'r radd flaenaf i fod yn Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Mae ar Gymru angen llywodraethu da a llywodraeth dda. Mae hyn yn gofyn am Gynulliad Cenedlaethol cryf ac effeithiol. Er mwyn iddo fod felly, mae'n rhaid i Aelodau unigol y Cynulliad fod yn eithriadol yn eu cymhelliant a'u gallu ac mae'n rhaid iddynt gael eu talu'n briodol."

Bydd y Bwrdd yn cwblhau eu cynigion yn y flwyddyn newydd a'r bwriad wedyn yw cyhoeddi pecyn cyflawn o daliadau, cymorth a lwfansau ym mis Mai - flwyddyn cyn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2016.

Ymateb

Mae'r pleidiau wedi dweud bod angen trafod y cynlluniau o fewn y pleidiau.

Dywedodd y blaid Lafur bod angen "trafod y mater gyda'r grŵp yn y Cynulliad", tra bod y Ceidwadwyr wedi dweud bod y blaid "wedi ymrwymo i leihau cost gwleidyddiaeth yng Nghymru" a'u bod yn gobeithio "bod cymaint o bobl â phosib yn cael rhoi eu barn" yn yr ymgynghoriad.

Yn ôl Plaid Cymru, nid yw'r cynlluniau yn cyd-fynd â thâl yn y sector cyhoeddus, ond dywedon nhw eu bod am drafod gyda phleidiau eraill.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y byddan nhw'n ymateb i'r cynlluniau yn y man, ond ychwanegodd llefarydd bod y blaid yn dadlau y dylid rhewi tal ACau "mewn cyfnod pan mae cyllidebau yn cael eu cwtogi".

Straeon perthnasol