Undeb yn annog gwrthod codiad cyflog ACau

Y Senedd, Bae Caerdydd
Image caption Mae'r Bwrdd Taliadau o'r farn y dylai cyflogau ACau yn y Cynulliad nesa' adlewyrchu'r ffaith bod ganddyn nhw fwy o gyfrifoldebau yn sgil datganoli pellach

Fe ddylai Aelodau'r Cynulliad wrthod cynnig o godiad cyflog o 18% os ydyn nhw wedi galw am reolaeth ar gyflogau mewn meysydd eraill, yn ôl undeb Unsain.

Mae panel annibynnol wedi cynnig bod hyd at £10,000 yn fwy o gyflog yn cael ei dalu i adlewyrchu'r cyfrifoldebau newydd fydd gan yr aelodau ar ôl etholiadau nesa'r Cynulliad yn 2016.

Ond mae un o uwch swyddogion Unsain yn dweud: "Oni bai fod ACau yn barod i herio ataliaeth cyflog mewn cyrff cyhoeddus eraill, fy ddylen nhw wrthod y cynnig hwn."

Petai'r cynnig yn cael ei dderbyn, byddai ACau yn gweld eu cyflogau yn cynyddu o £54,000 i tua £64,000 ar ôl yr etholiadau yn 2016.

Byddai'r prif weinidog ac aelodau'r cabinet yn gweld eu cyflogau yn codi i £140,000 a £100,000 yn y drefn yna.

Byw 'fel pobl gyffredin'

Dywedodd y bwrdd taliadau, sy'n gwerthuso cyflogau gwleidyddion Cymru, fod "y cynnydd mewn cyflog yn adlewyrchu'r cynnydd yng nghyfrifoldeb yr aelodau wrth i fwy o bŵer gael ei ddatganoli i Gymru."

Ond mae Dominic MacAskill, sy'n bennaeth llywodraeth leol ar gyfer undeb Unsain, yn dweud oni bai fod ACau yn gallu gweithredu ac ymdrin â rhwystrau cyflog llym sy'n bodoli ar gyfer aelodau ei undeb, y dylen nhw wrthod y cynnydd a "byw bywyd fel y bobl gyffredin sy'n gweithio".

Bydd yr argymhellion nawr yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus, gyda phecyn terfynol i'w gyhoeddi ym mis Mai 2015, flwyddyn cyn etholiadau'r Cynulliad.

Ymateb y pleidiau

Mewn ymateb, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi disgrifio'r argymhelliad i godi cyflogau hyd at 18% fel un "amhriodol".

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, fe ddylid rhewi tal ACau "mewn cyfnod pan mae cyllidebau yn cael eu cwtogi".

Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae grŵp ACau Plaid Cymru'n credu fod argymhellion y Bwrdd Taliadau ar gyfer cyflogau ar ôl 2016 yn amhriodol.

"Rydym yn disgwyl i'r safbwynt hwn, a barn y cyhoedd yn fwy cyffredinol, gael ei ystyried fel rhan o ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau."

Yn siarad fel arweinydd y Grŵp Llafur yn y Cynulliad, dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn gweld sut y gallai'r blaid gefnogi'r cynlluniau, a'i fod yn deall sut y byddai'r cyhoedd yn teimlo amdanynt yn y sefyllfa ariannol bresennol.

Ond ychwanegodd: "Dylwn ni ddim ymosod ar y Bwrdd Taliadau. Maen nhw'n annibynnol o'r llywodraeth a'r Cynulliad, ac fe gafodd y broses hon ei sefydlu gyda chefnogaeth drawsbleidiol."

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y blaid "wedi ymrwymo i leihau cost gwleidyddiaeth yng Nghymru" a'u bod yn gobeithio "bod cymaint o bobl â phosib yn cael rhoi eu barn" yn yr ymgynghoriad.

Straeon perthnasol