Carcharu dyn am geisio llosgi clwb nos yn Abertawe

CCTV

Mae dyn wnaeth geisio cynnau tân mewn clwb nos yn Abertawe lle roedd dros 200 o bobl y tu mewn wedi ei garcharu am saith mlynedd.

Cafodd Craig Cullen, 29, ei weld ar gamerâu CCTV yn taflu petrol ar ddrws cefn clwb Oxygen cyn ei gynnau, gan roi ei esgidiau ar dân yn y broses.

Roedd Cullen wedi cyfaddef llosgi bwriadol gan fwriadu peryglu bywyd, a chafodd ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Dywedodd y Barnwr Mervyn Hughes QC bod angen diogelu'r cyhoedd rhag Cullen.

Fe wnaeth Cullen ddechrau'r tân ar ôl ffraeo gyda'i gyn-gariad ym mis Ebrill.

Fe welodd y llys y fideo CCTV yn dangos Cullen yn dringo i fyny dihangfa dan yng nghefn y clwb, cyn taflu petrol ar y drws a'i gynnau.

Aeth ei ddillad a'i esgidiau ar dân wrth wneud, ac mae'r fideo yn ei ddangos yn rhedeg o'r clwb gyda staff yn ei ddilyn.

Image copyright Wales News Service
Image copyright Wales News Service

Straeon perthnasol