Gall ad-drefnu cynghorau gostio £268m, medd adroddiad

Gwasanaethau cyhoeddus
Image caption Ar hyn o bryd mae 22 awdurdod lleol yn gyfrifol am nifer fawr o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Fe all ad-drefnu cynghorau Cymru gostio hyd at £268 miliwn, yn ôl astudiaeth annibynnol sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Ond mae'n bosib y byddai uno awdurdodau hefyd yn arwain at arbedion blynyddol o hyd at £65 miliwn y flwyddyn.

Mae ymchwil y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (SSCCC) yn edrych ar effeithiau posib uno'r awdurdodau, fel cafodd ei awgrymu ym mis Ionawr gan y Comisiwn Williams.

Yr awgrym oedd lleihau'r nifer o 22 i wyth neu ddeg.

Arbed £65m bob blwyddyn?

Fe wnaeth Comisiwn Williams awgrymu y byddai uno yn arbed rhwng £60m ac £80m y flwyddyn, er y byddai cost o £100m i gwblhau'r newid.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, £200m fyddai'r gost o ad-drefnu.

Mae'r adroddiad gan SSCCC yn dweud y gall y gost fod rhwng £160m a £268m, ond fe all olygu arbedion o £65m y flwyddyn ar ôl hynny.

Cafodd y swm ei gyfrifo gan amcangyfrif yr arbedion o ddiswyddo staff sy'n dyblygu gwaith a gwerthu adeiladau ychwanegol.

Image caption Fe wnaeth y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews addo "llai o arweinwyr cyngor, llai o brif weithredwyr, llai o gabinetau cyngor a llai o gynghorau".

Dywed yr adroddiad y gall costau uno fod yn wahanol iawn i awdurdodau gwahanol, gan fod gwahaniaethau mawr mewn gwariant ar wasanaethau gwahanol.

Byddai gallu awdurdodau i arbed arian hefyd yn ddibynnol ar doriadau i'w cyllidebau gan y llywodraeth yn y dyfodol.

Ddydd Llun, fe wnaeth Cyngor Pen-y-bont bleidleisio o blaid uno gyda Bro Morgannwg mewn cyfarfod llawn.

'Costio i wneud dim'

Dywedodd Prif Weithredwr SSCCC, Rob Whiteman, bod angen i arweinwyr gwleidyddol fod yn "onest" gyda'r cyhoedd am y dyfodol.

"Bydd angen i'r proffesiwn cyllid yn enwedig fod yn ymwybodol o faterion rheoli risg yn deillio o newid strwythurol mawr, wrth geisio cyflawni lleihad i gyllidebau cynghorau ar yr un pryd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru bod yr angen am newid y drefn yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf a bod uno yn wirfoddol yn rhoi cyfle i awdurdodau reoli eu dyfodol eu hunain.

"Gallwn ni ddim fforddio methu'r cyfle yma i newid strwythur ein cynghorau a defnyddio cyllid i wella gwasanaethau," meddai.

"Mae cost sylweddol ynghlwm a gwneud dim. Mae'n ddiddorol bod ffigwr y SSCCC llawer is nac amcanion blaenorol y Gymdeithas Llywodraeth Leol o £400m."

Mae'r BBC wedi gofyn i'r Gymdeithas Llywodraeth Leol ymateb.

Straeon perthnasol