Comisiwn Smith: Angen yr un pwerau i Gymru

Yr Arglwydd Smith
Image caption Crewyd y comisiwn Smith gan Lywodraeth Prydain yn sgil y bleidlais 'na' yn refferendwm annibynniaeth yr Alban.

Mae gwleidyddion Cymru wedi galw am fwy o ddatganoli i Gymru yn sgil argymhellion Comisiwn Smith yn yr Alban.

"Dyle Senedd yr Alban dderbyn pwer i osod cyfradd treth incwm", yn ôl y comisiwn sy' wedi bod yn craffu ar ddatganoli.

Dywedodd Comisiwn Smith y dylid datganoli rhan o dreth TAW hefyd, yn ogystal a'r dreth ar deithiau awyr yn llawn.

Crewyd y comisiwn gan Lywodraeth Prydain yn sgil y bleidlais 'Na' yn refferendwm annibynniaeth yr Alban fis Medi.

Ymysg argymhellion y Comisiwn mae'n dweud:

  • Dylid datganoli'r pwer i osod treth inwm a chadw'r arian sy'n cael ei godi yn yr Alban.
  • Dylid rhoi'r pwer i Senedd yr Alban benderfynu a ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael yr hawl i pleidleisio.
  • Dylid datganoli pwerau dros fudd-daliadau ar gyfer pobol hyn, yr anabl a'r sawl sy'n sal.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod e "wrth ei fodd", gan ychwanegu: "Ry' ni'n cadw'n haddewid i bobl yr Alban."

Ymateb

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS fod yn rhaid i bob plaid yn San Steffan bellach ymuno â Phlaid Cymru o ran sicrhau bod Cymru'n cael yr un pwerau â'r Alban.

Wrth siarad ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd Mr Edwards: "Mae Plaid Cymru yn croesawu'r Comisiwn Smith, ond eto, rydym yn teimlo'r siom nad yw'n cyflawni disgwyliadau pobl yr Alban o ystyried yr hyn a addawyd yn nyddiau olaf cyn y refferendwm.

"Mae Plaid Cymru yn credu bod Cymru yn gymaint o genedl â'r Alban, a dylai'r pwerau sydd ar gael i'r Alban hefyd fod ar gael i Gymru.

"Fe ddaru ni rybyddio am hyn yn ystod pasio Mesur Cymru y byddai'n cael ei ddisodli gan ddigwyddiadau yn yr Alban, a dyma sy'n cael ei brofi gan gynigion y Comisiwn Smith."

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:

"Rwy'n croesawu adroddiad y Comisiwn Smith heddiw, sydd yn fy marn yn gam mawr arall tuag at y weledigaeth a osodwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol am ymreolaeth mewn Teyrnas Unedig Ffederal.

"Er bod setliad datganoli yn yr Alban yn y dyfodol yn glir, nid yw'r un peth yn wir ar gyfer Cymru - mae angen ei newid fel nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ôl."

'Gwahaniaethu'

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad yw Cymru'n cael ei thrin yn deg, ac y dylid trosglwyddo grym dros system bleidleisio etholiadau'r Cynulliad a'r dreth ar deithiau awyr i Gymru.

Meddai: "Os ydyn nhw'n mynd i'r Alban a ddim i Gymru, sut arall y mae pobl Cymru i fod i edrych ar bethau heblaw bod e'n gwahaniaethu ar ran llywodraeth y DU.

Ychwanegodd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler:

"Mae Comisiwn Smith wedi gweithio'n gyflym i lunio ei gynigion o ran y camau nesaf i'r Alban. Rwyf wedi dweud yn aml ei bod yn bwysig bod newid cyfansoddiadol yn cynnwys pob cenedl yn y DU - nid yr Alban yn unig.

"Trwy gydol hanes datganoli yn y DU, mae newidiadau i'r setliad cyfansoddiadol yn yr Alban yn aml wedi arwain at newidiadau tebyg yng Nghymru.

"A dweud y gwir, mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud y bydd gan bobl Cymru hefyd fwy o lais am eu pethau eu hunain.

"Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r cynigion yn fanylach ac at weld yr elfennau y byddai'n fuddiol eu hystyried o ran Cymru."

"Rwy'n disgwyl gweld symud ymlaen ar hynny, ac yn fuan."