Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth yn Ysbyty Llwynhelyg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth claf 75 oed mewn ysbyty yn Sir Benfro.

Mae swyddogion yn edrych eto ar amgylchiadau marwolaeth Susan Evans fu farw ar 17 Tachwedd yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae teulu'r fenyw a'r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad.

Fe ddywedodd Paul Hawkins - swyddog prif weithredol bwrdd iechyd Hywel Dda - ei fod yn cydymdeimlo â'r teulu ac yn cydweithredu'n llwyr â'r heddlu.

Ychwanegodd: "Mewn achos fel hwn, rydym wastad yn cynnal ymchwilad mewnol trwyadl."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.