Beth yw eich hoff olygfa?

Llyn y Fan Image copyright Y Lolfa
Image caption Llyn y Fan Fach ar odre gorllewinol y Mynydd Du

Beth yw eich hoff olygfa yng Nghymru? Mae'n siwr bod gan bawb ei ffefrynnau a mae'n gwestiwn sydd wedi bod yn fan cychwyn sawl dadl danbaid dros y blynyddoedd. Nawr, mae'r Dr Dyfed Elis-Gruffydd, wedi cyhoeddi cyfrol - 100 o Olygfeydd Hynod Cymru (Y Lolfa) Mae'r awdur ac un o arweinwyr teithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd yn egluro wrth BBC Cymru Fyw sut aeth ati i ddewis a dethol:

'Codi cwr y llen'

Byth ers i Arthur Harris, y Gamaliel ysbrydoledig hwnnw a ddysgai ddaeareg a daearyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful, danio fy niddordeb ysol mewn daeareg, trwy ddrych y daearegwr y gwelaf i dirweddau amrywiol Cymru.

Gydol fy ngyrfa, felly, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod y bûm yn ddarlithydd yn un o golegau Llundain ac yn ddiweddarach yn olygydd ac yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, gobeithiwn y caem gyfle, ryw ddydd, i lunio cyfrol Gymraeg a fyddai'n codi cwr y llen ar un wedd ar hanes cyfareddol Cymru nad yw, ysywaeth, wedi cael y nesaf peth i ddim sylw gan naill ai awduron Cymraeg neu gynhyrchwyr rhaglenni S4C.

Image copyright Y Lolfa
Image caption Porth yr Ogof, Ystradfellte

Dechreuais ystyried y posibilrwydd o ddifrif yn dilyn darllen Rhagair yr hanesydd, Dr John Davies, i'w gyfrol Cymru y 100 lle i'w gweld cyn marw (2009) oherwydd ynddo pwysleisiai mai gwaith dynolryw oedd ganddo ef dan sylw:

"Testun llyfr arall", meddai, "fyddai didoliad o'r can lle yng Nghymru y dylid ymweld â hwy oherwydd eu harddwch."

Y comisiwn a dderbyniais gan y Lolfa a'm sbardunodd i fynd i'r afael â'r dasg o lunio 100 o Olygfeydd Hynod Cymru, ond golygfeydd hynod, sylwer, rhagor na hardd, er hardded yw cynifer ohonynt.

Crwydro Cymru

Ac ystyried pa mor gyfoethog yw treftadaeth ddaearegol Cymru, gorchwyl anodd ar y naw oedd dewis cant o safleoedd cynrychioliadol o'r cyfoeth hwnnw o blith y cannoedd posib ledled y wlad. At hynny, mater o raid oedd dewis lleoliadau a fyddai o fewn cyrraedd mwyafrif y darllenwyr: o Fynydd Bodafon i Garn Llidi; o Drefor i Ddwnrhefn ac o'r Wyddfa fawr i Ysgyryd Fawr.

Gorchwyl hynod bleserus oedd nid yn unig crwydro'r wlad a llunio'r ysgrifau amrywiol iawn ei themâu ond hefyd dynnu'r lluniau sydd yn portreadu nodweddion penodol pob safle a ddisgrifir.

Felly, drwy gyfrwng gair a llun, y gobaith yw y daw'r darllenydd i wybod am y grymoedd a roes fod i dirweddau digymar Cymru; am greigiau'r oesoedd a adawodd eu stamp ar adeiladau, henebion a chofebion y wlad; ac am ymateb beirdd a llenorion a gwyddonwyr daear i olygfeydd un rhan fach o'r greadigaeth a'n hofer esgeulustod ohoni.

Ond aros mae'r mynyddoedd mawr, a'r copaon mawreddog yr arferwn innau eu cyrchu o Ferthyr oedd Bannau Brycheiniog. Yno, mae ôl y rhewlifau a'u lluniodd 20,000 o flynyddoedd yn ôl yn gwbl eglur.

A oes yng Nghymru dirffurfiau rhewlifol godidocach na'r rheiny sy'n nodweddu'r Bannau, Fforest Fawr a Bannau Sir Gâr? Nid ym marn yr awdur hwn a'u hastudiodd ar gyfer ei ddoethuriaeth!

Cliciwch yma i weld rhai o'r golygfeydd hynod sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol.

Image copyright Y Lolfa