Comisiynydd o blaid cael llais o Gymru ar banel camdrin

Y comisiynydd, Keith Towler
Image caption Y comisiynydd, Keith Towler

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud ei fod o blaid cael llais o Gymru ar banel ymchwilio i gam-drin rhywiol hanesyddol.

Dywedodd Keith Towler ei fod yn cefnogi'r syniad oherwydd y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr o safbwynt amddiffyn plant.

Yn y cyfamser, dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai'r panel "yn ennill hyder y cyhoedd a goroeswyr cam-drin".

Yn ôl y comisiynydd: "os yw'r ymchwiliad yma yn hollbwysig, mae'n bwysig bod rhywun yn deall y drefn yng Nghymru, sut oedd y drefn, ac yn deall yn llwyr, natur y pynciau trafod yng Nghymru.

Gwneud digon

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May AS ym mis Gorffennaf y byddai'r ymchwiliad yn cael ei sefydlu.

Y nod oedd asesu a oedd cyrff cyhoeddus a chyrff eraill wedi gwneud digon i amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol o 1970 hyd heddiw.

Ymddiswyddodd y ddwy gafodd eu henwebu'n gadeiryddion - Y Farwnes Butler-Sloss a Fiona Woolf - oherwydd eu cysylltiadau â'r sefydliad.

Mae panel o arbenigwyr y gyfraith ac amddiffyn plant wedi eu dewis, ond nid oes neb o Gymru ar y panel, na neb sydd wedi gweithio yn y wlad.

Yn ystod sesiwn gwestiynau yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, dywedodd Carwyn Jones: "Ymhlith holl adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y Swyddfa Gartref sy'n gwybod lleiaf am ddatganoli."

Anfon map

"A ddylen ni roi sylw llawn i hyn o gofio nad oes cynrychiolydd o Gymru ar y panel?"

Dywedodd Mr Jones fod angen anfon map i'r Swyddfa Gartref, un oedd yn dangos arno ble oedd Cymru.

Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref wedi dweud: "Mae gan aelodau'r panel ystod eang o brofiad a sgiliau.

"Bydd y cadeirydd a'r panel yn ymwybodol o natur datganoli ym meysydd iechyd, addysg a llywodraeth leol yng Nghymru.

"Rydym yn sicr y byddan nhw'n cydweithio'n effeithiol â Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a goroeswyr o Gymru fel y bydd yr adroddiad yn delio'n llawn â'r cam-drin ofnadwy hwn."