Carreg fedd Garry Jenkins
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw am ymchwiliad cyhoeddus i waith y Gleision

26 Tachwedd 2014 Diweddarwyd 21:25 GMT

Mae rhieni un o'r pedwar glöwr fu farw yng ngwaith y Gleision, Cwm Tawe yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn ddigwyddodd.

Mewn cyfweliad â Newyddion 9, dywedodd rhieni Garry Jenkins nad ydynt ddim agosach at gael atebion.

Bu farw Garry Jenkins, Charles Breslin, Philip Hill a David Powell yng ngwaith glo y Gleision .

Eiliwyd cri rhieni Garry Jenkins am atebion gan yr Aelod Seneddol lleol, Peter Hain.

Dywedodd Peter Hain AS nad oedd y system gyfiawnder na'r asiantaethau allweddol wedi gallu dweud pam gwnaed y penderfyniad i gloddio tuag at gyfeiriad y dŵr.

Adroddiad Aled Huw.