Brecwast ysgol: 'angen newid y drefn'

Clwb Brecwast
Image caption Y clwb brecwast yn Ysgol y Lawnt, Rhymni

Mae deng mlynedd ers i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru ddechrau derbyn brecwast am ddim.

Dros y ddegawd diwethaf mae cannoedd o filoedd o ddisgyblion wedi elwa o'r cynllun, ond rwan mae yn alwadau i'w newid.

Toc wedi wyth o'r gloch yn Ysgol y Lawnt Cwm Rhymni ac yn barod mae 'na rhyw 30 o blant wedi cyrraedd.

Mae nifer yn eistedd gyda darn o dost, ffrwyth neu sudd oren, ac yn amlwg wrth eu boddau.

Sharon Davies ydy pennaeth yr ysgol: "Dwi'n meddwl bod brecwast rhad yn beth da, bydde'n hyfryd i gal cinio rhad hefyd.

"Ond er mwyn i rieni fynd i'r gwaith fi'n credu ei fod yn adnodd ardderchog, a ddim jyst hynny mae'n adnodd da i'r plant i ddod at ei gilydd cyn ysgol bob bore."

Image caption Mae'r brif athrawes Sharon Davies yn dweud bod y brecwast yn adnodd 'ardderchog' i blant

Ond nid pawb sy'n hapus gyda'r drefn. Ymhlith y rhai sy'n galw am newid o frecwast am ddim i ginio mae'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Eu llefarydd yng Nghymru ydy Aled Roberts: "'Da ni di awgrymu i'r llywodraeth eu bod nhw'n mabwysiadu'r polisi o Loegr bod pob plentyn ysgol gynradd yn cael cinio ysgol am ddim - achos bod pob plentyn o fewn yr ysgol.

"'Da ni'n clywed straeon fod rhai plant yn methu'r brecwast achos bod nhw ddim yn cyrraedd erbyn 9 o'r gloch.

"Mae pob plentyn o fewn yr ysgol amser cinio - felly mae modd i ni roi'r arian."

Y rheswm maen nhw am newid ydy mai dim ond un o bob pum disgybl sy'n cyrraedd yr ysgol i gael brecwast.

O'r 264,186 disgybl yn ein hysgolion cynradd, 46,262 oedd yn bresennol i gael brecwast pan wnaed arolwg, sef 17%.

Drwy Gymru mae tua wyth o bob deg ysgol yn cynnwys y cynllun (82%).

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, fyddai newid i ginio am ddim yn gam gwag.

"Nid yw'r cynllun cinio ysgol yn gweithio yn dda yn Lloegr, ac mae wedi achosi cryn ddryswch mewn ysgolion yn Lloegr.

"Nid yw'n gynllun rydyn ni am ei hefelychu, a bydd addysgwyr yn dweud - y dechrau i'r diwrnod - setlo a sicrhau bod plentyn yn gyfforddus ac yn barod i ddysgu - dyna'r peth hollbwysig."

I nifer o rieni, mae'r cynllun yn fendith.

Mae'r Ceidwadwyr yn credu y dylai rhai sy'n gallu talu am y gwasanaeth, orfod gwneud.

Dywedodd eu llefarydd ar addysg, Angela Burns:

"Buaswn i'n newid y polisi drwy sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad - ac er mwyn gwneud hynny mae angen i ni fod yn rhesymol am ei gyllido. Felly buaswn i'n codi tal bach i'r rhai all fforddio talu.

"I'r rhai all ddim - yna dylen nhw ddim talu."

Beth bynnag fydd dyfodol y cynllun, mae degau o filoedd eisoes wedi elwa dros y degawd ddiwethaf.