Cynghorau i ddatgan bwriad uno erbyn hanner nos

Gwasanaethau cyhoeddus
Image caption Y bwriad yw arbed arian drwy leihau dyblygu swyddi a gwasanaethau

Mae gan gynghorau Cymru tan hanner nos i ddweud wrth lywodraeth Cymru os ydyn nhw am uno gydag awdurdod arall yn wirfoddol.

Fe ddaeth trefn bresennol y cynghorau i fodolaeth yn 1996, ond nawr mae'r broses yn dechrau eto.

Mae'r llywodraeth yn ffafrio newid i 12 cyngor, a hynny o'r 22 sydd ar hyn o bryd.

Ond mae'n ymddangos bod sawl awdurdod yn anhapus i uno gyda chynghorau agos o'u gwirfodd.

12 cyngor neu lai

Ym mis Ionawr, cafodd map newydd ar gyfer cynghorau Cymru ei hawgrymu gan Gomisiwn Williams, gafodd ei sefydlu i edrych ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.

Roedd 'na dri opsiwn ond ffefryn Llywodraeth Cymru oedd torri nifer y cynghorau o 22 i 12.

Ers hynny mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews wedi awgrymu y gallai hynny ostwng i gyn lleied â chwech.

Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone

"Dyw twrci ddim yn dueddol o groesawu'r Nadolig," oedd dadansoddiad cyn-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies, ar BBC Cymru y bore 'ma... "Ond mae'r twrcis yma'n deall bod dydd y farn yn agoasau."

Y 22 cyngor sir yw'r twrcis, wrth gwrs, dan bwysau ers tro i uno er mwyn torri eu niferoedd ac arbed arian. Ond er taw heddiw yw'r diwrnod olaf iddyn nhw gael mynegi diddordeb mewn uno'n wirfoddol, dyw dydd y farn ddim cweit wedi cyrraedd eto.

Mae canllaw a map ar gael ers mis Ionawr drwy law comisiwn Williams. Mae 'na opsiynau yn amrywio o 10 cyngor newydd at 12, a hynny drwy uno cynghorau yn unol â ffiniau byrddau iechyd, arian Ewropeaidd, ac ati.

Ond mae mwy nag un ffordd o gael Wil i'w wely. Mae ambell i bâr yn hapus i uno (Conwy a Dinbych, er enghraifft), eraill yn hapus i uno er i Williams argymell patrwm gwahanol (Pen-y-bont a Bro Morgannwg) a niferus esiamplau lle mae'r naill gyngor yn estyn llaw a'r llall yn gwrthod. Ac wedyn mae 'na gynnig diddorol yn ardal Abertawe i rwygo'r map yn llwyr ac, i bob pwrpas, creu cyngor mawr, pwerus newydd o sgerbwd nifer o'r awdurdodau presennol.

A dweud y gwir mater i Leighton Andrews yw'r cam nesaf. Mae e wedi (mwy neu lai) bygwth gorfodi trefn newydd o chwe chyngor yn unig, ond dyw'r Neuaddau Sir ddim wedi crynu hyd yn hyn.

Y cwestiwn yw pa mor bwysig yw egwyddorion map Comisiwn Williams. A ydy hi'n well hepgor rheiny yn gyfangwbwl er mwyn dod â'r broses i ben yn gyflymach? A oes gofyn gosod amserlen newydd, gydag etholiadau Cynulliad ar y gorwel? Ac a oes modd sicrhau na fydd y broses mor hirwyntog nes tynnu adnoddau prin gan wasanaethau cyhoeddus.

Cwestiwn o bwy sy'n fwya' pwerus, mewn geiriau eraill - y Gweinidog neu'r cynghorau sir. Mae'n debyg y bydd rhai o'r Twrcis yn goroesi Nadolig 'leni, ond go brin fydd y rhan fwya'n gweld y nesaf.

'Cynnal gwasanaethau'

Y cyntaf i ddweud eu bod nhw'n fodlon trafod oedd Sir Ddinbych a Chonwy, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ydy Hugh Evans.

"Ar ddechrau'r broses yma bydde cynghorwyr Sir Ddinbych 'di bod yn eitha' hapus yn aros fel ydan nhw.

"Be' sy' 'di digwydd yn y misoedd diwetha' ydy lefel y toriadau 'de ni'n derbyn, a lefel y toriadau dros y blynyddoedd nesa'.

"'De ni 'di ailedrych ar sut i ddarparu gwasanaethau dros y blynyddoedd nesa', ac mae'n edrych yn debyg ma' ymuno efo Conwy fase'r ffordd orau o gynnal gwasanaethau yn y tymor hir."

Fe wnaeth Comisiwn Williams awgrymu y gallai Caerdydd a Bro Morgannwg ddod at ei gilydd, ond mae'r Fro wedi troi at Ben-y-bont.

O ganlyniad, ni all Cyngor Pen-y-bont uno hefo Castell Nedd Port Talbot fel yr awgrym.

Felly bwriad Castell Nedd Port Talbot yw cynnig uno hefo Abertawe - er bod hynny yn mynd yn groes i'r canllawiau ac yn awgrymu ehangu ffiniau'r awdurdod newydd.

Image caption Fe wnaeth y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews addo "llai o arweinwyr cyngor, llai o brif weithredwyr, llai o gabinetau cyngor a llai o gynghorau"

Y ddau arall sydd wedi dweud eu bod nhw'n bwriadu trafod yw Torfaen a Blaenau Gwent, rhywbeth y mae'r Aelod Cynulliad lleol, Alun Davies, yn ei groesawu.

"Dwi'n falch iawn fod fy nghyngor lleol i ym Mlaenau Gwent wedi penderfynu symud ymlaen i greu model newydd gyda Thorfaen, a liciwn i weld Sir Fynwy yn ymuno gyda nhw i greu Mynwy newydd.

"'Dy ni'n dod at ddiwedd cyfnod dan hyn, nid diwedd y daith na'r drafodaeth, a dwi'n edrych ymlaen at gynnal trafodaeth, falle tipyn bach caletach dros siâp llywodraeth leol yn y dyfodol."

Ond nid yw pob awdurdod mor awyddus i uno. Yn y gogledd orllewin mae Gwynedd yn fodlon trafod uno hefo Môn, ond nid yw Môn mor frwdfrydig.

Mae eraill yn sicr nad ydyn nhw am uno, er enghraifft Ceredigion, a rhai yn dal i ystyried eu hopsiynau, fel Rhondda Cynon Taf.

Roedd y drefn gafodd ei gytuno yn 1996 yn wahanol iawn i'r un gafodd ei gynnig gyntaf, ac mae'n debyg bod llawer iawn o drafod i'w wneud cyn cadarnhau beth fyddsiâp a nifer awdurdodau newydd Cymru.

Straeon perthnasol