Gwener Gwario: Galw am gymorth yr heddlu

Black Friday shoppers in a Cardiff Tesco Image copyright Matthew Horwood
Image caption Siopwyr yn archfarchnad Tesco, Caerdydd

Cafodd yr heddlu eu galw i archfarchnad yng Nghaerdydd bore Gwener gydag adroddiadau o drafferthion wrth i gwsmeriaid gystadlu am fargeinion.

Mae nifer o siopau yn rhoi cynigion a phrisiau arbennig ar ddydd Gwener Gwario wrth iddynt geisio denu cwsmeriaid yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Cafodd yr heddlu eu galw i archfarchnad Tesco ar Rodfa'r Gorllewin ond ni chafodd unrhyw un ei arestio.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Pobl yn archfarchnad Tesco yn Gabalfa

Roedd rhai siopwyr wedi trydar fod cwsmeriaid wedi bod yn ymladd.

Bu rhai pobl yn ciwio ers 18:00 er mwyn cael mynediad i' siop am hanner nos.

Mae dydd Gwener Gwario yn draddodiad sy'n cael ei gysylltu gyda'r Unol Daleithiau, lle mae'r siopau yno yn denu cwsmeriaid ar ôl cyfnod gwyliau Diolchgarwch y wlad.

Image copyright Matthew Horwood
Image caption Yr heddlu yn cyrraedd archfarchnad Tesco yng Nghaerdydd