Gwaharddiad a dirwy am sylwadau homoffobig

Nigel Owens Image copyright Getty Images

Mae dau wnaeth sylwadau homoffobig i'r dyfarnwr Nigel Owens wedi eu gwahardd o Twickenham am ddwy flynedd ac wedi cael dirwy o £1,000 yr un.

Fe wnaeth y ddau y sylwadau yn ystod gêm Lloegr yn ebryn Seland Newydd ar Dachwedd 8.

Bydd y dirwyon yn cael eu talu i elusen y mae'r dyfarnwr yn ei dewis.

Mae ail ymchwiliad i sylwadau honedig mewn rhan arall o'r stadiwm yn parhau.

Dywedodd prif weithredwr yr RFU, Ian Ritchie bod achosion fel hwn yn brin iawn.

"Rydyn ni i gyd yn gorfod diogelu pob rhan o'r gêm, ar y cae ac oddi arno, a dyma'r gwerthoedd sy'n gwneud y gamp yn un arbennig," meddai.

'Atal'

Cafodd yr undeb wybod am y digwyddiadau gan gefnogwyr eraill.

Ar BBC Radio Wales dywedodd y dyfarnwr: "Mae'n bwysig iawn atal y pethau yma rhag troi yn broblemau mwy yn y gêm.

"Fel dyfarnwr dyw hi ddim yn neis pryd mae hyn yn digwydd ... 'sen i'n dweud bod hyn ddim yn ca'l effeth arna i fe fydden i'n dweud celwydd ...."

Daeth yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2005 a dywedodd ei fod yn hoyw ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Straeon perthnasol