Cymru yn croesawu De Affrica

george north Image copyright Getty Images
Image caption Mae George North wedi dychwelyd i'w glwb yn Northampton yn dilyn anaf yn erbyn y Crysau Duon.

Bydd Cymru yn croesawu De Affrica i Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn yn y gêm olaf yng nghyfres ryngwladol yr hydref.

Mae Cymru yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y Springboks ers 1999.

Mae Cymru wedi colli yn eu 16 gemau diwethaf yn erbyn De Affrica.

Mae eu record cyffredinol yn erbyn y Springboks, un fuddugoliaeth allan o 29 o gemau, yn waeth na'r record yn erbyn Seland Newydd (sy'n dair buddugoliaeth allan o 30).

Ond yn ystod eu gêm ddiwethaf, roedd Gymru yn arwain yn erbyn y Springboks o 30 pwynt i 17 gydag 10 munud yn weddill, ond fe lwyddodd De Affrica i sgorio dau gais hwyr, ac fe ildiwyd cic cosb gan Liam Williams, i sicrhau buddugoliaeth i'r gwŷr o hemisffer y de.

Newidiadau

Mae Cymru wedi gwneud tri newid i'r tîm i wynebu De Affrica, gyda Gethin Jenkins, Scott Baldwin a Liam Williams i gyd yn dychwelyd i'r 15 cychwynol.

Daw Liam Williams i mewn i'r tîm gan nad yw George North wedi gwella o anaf a gafodd yn erbyn Seland Newydd dydd Sadwrn diwethaf.

Bydd Jenkins a Baldwin yn ymuno â Samson Lee i ffurfio'r rheng flaen fel yn y gêm yn erbyn Fiji bythefnos yn ôl.

Mae gweddill y blaenwyr yn parhau fel y gêm penwythnos diwethaf yn erbyn pencampwyr y byd, Seland Newydd, gyda Jake Ball yn partneru Alun Wyn Jones yn yr ail reng a Dan Lydiate, Taulupe Faletau â'r capten Sam Warburton i ffurfio'r rheng ôl.

Bydd Rhys Webb a Dan Biggar yn parhau â'u partneriaeth fel hanneri a bydd Jamie Roberts a Jonathan Davies yn chwarae yng nghanol cae.

Liam Williams yw'r unig newid ymhlith yr olwyr, ac fe fydd Alex Cuthbert a Leigh Halfpenny gwisgo'r crysau 14 a 15.

TÎM CYMRU I HERIO DE AFFRICA:

Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (heb glwb), Sam Warburton (Gleision, Capten), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Emyr Phillips (Scarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), James King (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).

TÎM DE AFFRICA:

Willie le Roux; Cornal Hendricks, Jan Serfontein, Jean de Villiers (Capten), Lwazi Mvovo; Pat Lambie, Cobus Reinach; Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Coenie Oosthuizen; Eben Etzebeth, Victor Matfield; Marcell Coetzee, Teboho Mohoje, Duane Vermeulen.

Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Julian Redelinghuys, Lood de Jager, Nizaam Carr, Francois Hougaard, Handré Pollard, Damian de Allende.