Cyhoeddi gemau pedwaredd rownd cwpan Cymru

Image copyright Huw Evans picture agency

Mae enwau'r timau sydd wedi cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael eu tynnu allan o het fore Llun ym Mhencadlys CBDC yng Nghaerdydd.

Fe fydd naw tîm o Uwchgynghrair Cymru yn cystadlu, dau dîm o Adran 1 Cynghrair Bêl-droed Cymru, dau dîm o gynghrair Huws Gray a thri thîm o'r drydedd adran.

Fe fydd y timau canlynol yn herio ei gilydd ar y penwythnos sy'n cychwyn y 6ed o Chwefror:

  1. Caersws v Y Drenewydd
  2. Prifysgol Met Caerdydd v Airbus UK
  3. GAP Cei Connah v Bala
  4. Caerau Ely v Caerfyrddin
  5. Llanrhaeadr ym Mochnant v Rhyl
  6. Y Seintiau Newydd v Gresffordd Athletic
  7. Dinas Bangor v Conwy Boro
  8. Treffynon v Aberystwyth