Uno cynghorau: Angen "gweledigaeth gyffredin"

Gwasanaethau cyhoeddus
Image caption Bwriad yr uno yw arbed arian drwy leihau dyblygu swyddi a gwasanaethau.

Mae cynghorau lleol sy'n wynebu uno gydag awdurdodau lleol eraill wedi galw am "weledigaeth gyffredin" gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r dyfodol.

Roedd gan y cynghorau tan hanner nos ddydd Gwener i ddweud wrth lywodraeth Cymru os oedden nhw am uno gydag awdurdod arall yn wirfoddol.

Dim ond chwe allan o'r 22 cyngor yng Nghymru wnaeth ddweud eu bod nhw'n fodlon uno gyda chyngor arall.

Dywedodd eraill bod angen mwy o amser arnyn nhw, gan ofyn a yw'r targed gwreiddiol o leihau nifer yr awdurdodau i 10 neu 12 bellach wedi'i dorri eto i chwech.

Mae arweinwyr y cynghorau hefyd yn cwestiynu pwy fydd yn talu am yr ad-drefnu, gydag adroddiad gan gyfrifwyr yn awgrymu y gallai gostio hyd at £268 miliwn.

Chwe chyngor

Ym mis Ionawr, cafodd map newydd ar gyfer cynghorau Cymru ei hawgrymu gan Gomisiwn Williams, gafodd ei sefydlu i edrych ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.

Roedd 'na dri opsiwn ond ffefryn Llywodraeth Cymru oedd torri nifer y cynghorau o 22 i 12.

Ers hynny mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews, wedi awgrymu y gallai hynny ostwng i gyn lleied â chwech.

Mae'r rheiny sy'n cefnogi ad-drefnu ac uno yn honni y bydd yn sicrhau bod llywodraeth leol yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Hyd yn hyn mae chwe chyngor wedi cytuno i gydweithio:

Conwy a Sir Ddinbych

Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr

Blaenau Gwent a Thorfaen

"Gweledigaeth gyffredin"

Mewn cyfarfod cyn y dyddiad cau ddydd Gwener ar gyfer uno'n wirfoddol, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod angen mynd i'r afael â nifer o faterion cyn y byddai cynghorau eraill yn fodlon uno:

  • Dylai gweinidogion a chynghorau gytuno ar "weledigaeth gyffredin" ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol.
  • Dylid sicrhau eglurder ynglŷn â'r targed ar gyfer nifer yr awdurdodau lleol fydd yn cael eu creu gan yr uno.
  • Pwy fydd yn talu am yr ad-drefnu.
  • Pa ran fydd gan weithwyr y cynghorau a'r cyhoedd i'w chwarae yn y drafodaeth.

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bob Wellington, sydd hefyd yn arwain Cyngor Torfaen: "Mae angen i'r drafodaeth ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ddatblygu i fod yn drafodaeth agored ac adeiladol."

Ychwanegodd: "Bydd yn rhaid canfod canlyniad fydd yn darparu strwythur addas ar gyfer ein hanghenion ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol."

Mae Comisiwn Williams wedi amcangyfrif y bydd yr ad-drefnu'n arbed rhwng £60-80 miliwn y flwyddyn, ond y bydd yn costio £100 miliwn i sefydlu'r drefn newydd.

Ond mae adroddiad gan gyfrifwyr ar gyfer y Gymdeithas yn dweud y byddai'r ad-drefnu'n costio hyd at £268 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ymateb i'r ceisiadau i uno'n wirfoddol ar 5 Ionawr.

Straeon perthnasol