Galw am newid trefn cyflogau gweithwyr asiantaeth

Gwaith adeiladu ar yr A465
Image caption Mae undeb UCATT yn dweud bod llawer o weithwyr yn derbyn eu cyflog drwy gwmniau cyfrifwyr, a bod y cwmniau hynny'n cymryd ffioedd a chostau gweinyddol allan o'r cyflog hwnnw.

Mae galw ar i gwmniau yng Nghymru newid y ffordd mae gweithwyr, sy'n cael eu cyflogi drwy asiantaeth, yn cael eu talu, a hynny yn dilyn honiadau bod gweithwyr yn "colli allan."

Mae undeb UCATT (Union of Construction, Allied Trades and Technicians) yn dweud bod llawer o weithwyr yn derbyn eu cyflog drwy gwmniau cyfrifwyr, a bod y cwmniau hynny'n cymryd ffioedd a chostau gweinyddol allan o'r cyflog hwnnw.

Yn ôl yr undeb mae'r gweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y dull hwn yn cynnwys y rheiny sy'n gweithio ar Heol Blaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cytundeb gafodd ei arwyddo gyda chwmni Carillion ar gyfer cwblhau'r gwaith yn cynnwys taliadau teg i weithwyr.

'Cwbl anfoesol'

Mae gweithwyr wedi dweud eu bod wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i fod yn hunan-gyflogedig er mwyn cydymffurfio gyda rheolau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gan dderbyn eu cyflog fel gweithiwr drwy asiantaeth neu gwmni cyfrifwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Carillion bod deddfwriaeth newydd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ym mis Ebrill 2014 yn golygu bod cynllun hunan-gyflogaeth ddim yn ymarferol ar gyfer gweithwyr sydd "dan oruchwyliaeth neu reolaeth uniongyrchol".

Ychwanegodd mai penderfyniad i'r unigolyn yw drwy ba ddull y bydd yn derbyn ei gyflog.

Mae'r mater yn effeithio 48 o bobl sy'n gweithio ar gytundeb yr A465.

Dywedodd Nick Blundell, ysgrifennydd rhanbarthol y UCATT ar gyfer Cymru a'r De Orllewin: "Mae gweithwyr yn colli allan oherwydd eu bod yn gorfod defnyddio cwmniau ymbarel ac erbyn hyn maen nhw'n cael trafferth cadw deupen llinyn ynghyd."

Ond mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi dweud na fydden nhw byth yn gorfodi gweithwyr i ddefnyddio cwmniau ymbarel nac unrhyw ganolwyr eraill.

Ychwanegodd Huw Irranca Davies, AS Ogwr: "Tydi hyn ddim yn anghyfreithlon, ond mae'n gwbl anfoesol ac rydw i wedi clywed gan bobl sy'n gweithio i'r cwmniau ymbarel nad ydyn nhw eisiau bod yn gwneud hyn, ond nad oes ganddyn nhw ddewis, oherwydd bod pawb arall yn ei wneud."