Wrecsam 3-1 Aldershot

Wrecsam v Aldershot Image copyright Huw Evans picture agency

Daeth Wrecsam o'r tu ôl i sicrhau buddugoliaeth sylweddol dros Aldershot ar y Cae Ras.

Dechrau digon digalon gafodd Wrecsam wrth i Dan Holman roi'r fantais gynnar i'r ymwelwyr.

Ond roedd arwyddion mwy calonogol ychydig dros 10 munud yn ddiweddarach wrth i Mark Carrington sgorio, er mwyn dod â'r ddau dîm yn gyfartal.

Ac yn gynnar yn yr ail hanner dyblodd Wrecsam eu mantais wrth i Andy Bishop ganfod cefn y rhwyd.

Wedi i Glenn Wilson ildio cic o'r yn yr ail hanner, llwyddodd Louis Moult i sgorio o'r smotyn, gan sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r tîm cartref.