Connacht 14-8 Scarlets

Connacht v Scarlets Image copyright Inpho

Colli oddi cartref yn erbyn Connacht wnaeth y Scarlets, a hynny wedi perfformiad cryf gan y Gwyddelod yn ail hanner y gêm.

Aeth y Scarlets ar y blaen wedi dim ond dau funud diolch i gic gosb lwyddiannus gan Steven Shingler, a munud yn ddiweddarach ychwanegodd Harry Robinson at gyfanswm yr ymwelwyr drwy sgorio cais.

Ni pharhaodd y fantais honno'n hir wrth i Jack Carty sgorio cic gosb i'r tîm cartref.

O fewn pum munud i gychwyn yr ail hanner, roedd Carty wedi llwyddo gyda chic arall i leihau mantais y Scarlets ym mhellach, cyn i Matthew Healy sgorio cais i'r tîm cartref i'w rhoi ar y blaen.

Ychwanegodd Carty dri phwynt arall i gyfanswm Connacht llai nag 20 munud cyn diwedd y gêm, gan olygu buddugoliaeth o 14-8 i'r Gwyddelod.