Torri gyrrwr yn rhydd o gar wedi gwrthdrawiad

Car heddlu

Mae gyrrwr wedi cael ei dorri'n rhydd o'i gar wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4244 ger Bangor, ychydig cyn 8:30yb ar ddydd Sul, 30 Tachwedd.

Cafodd y gyrrwr ei ryddhau o'i gar gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cyn cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.