Gorfodi cynghorau i uno yn "hynod anghyfrifol"

Gwasanaethau cyhoeddus
Image caption Bwriad y cynllun uno yw arbed arian drwy leihau dyblygu swyddi a gwasanaethau.

Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Mark Isherwood, wedi dweud y byddai gorfodi cynghorau i uno yn "hynod anghyfrifol" oherwydd y gost o wneud hynny mewn cyfnod o doriadau i gyllidebau.

Dywedodd Mr Isherwood, llefarydd y Ceidwadwyr dros gymunedau, bod Llywodraeth Cymru wedi "methu'n gyfan gwbl" â sicrhau asesiad o gost y cynllun ad-drefnu.

Mae gweinidogion eisiau lleihau nifer y cynghorau o'r nifer presennol, sef 22.

Mae cynlluniau ar y gweill i leihau nifer y cynghorau i 12 wrth i'r awdurdodau uno'n wirfoddol, ond nid yw gweinidogion wedi cadarnhau na fyddan nhw'n mynd yn bellach na hynny.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews, sy'n goruchwylio'r broses, bod rhai yn y Blaid Lafur eisiau gweld cyn lleied â chwech o gynghorau.

'Angenrheidiol'

Roedd AC Gogledd Cymru, Mr Isherwood, yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC yn dilyn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â chost yr ad-drefnu.

Mewn adroddiad gafodd ei gomisiynu gan y cynghorau lleol eu hunain, daeth Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifon i'r casgliad y byddai'r uno'n costio rhwng £160-268 miliwn, ond y byddai'r cynghorau'n arbed £65 miliwn y flwyddyn wedi hynny.

Dywedodd Mr Isherwood: "Mae hi'n glir y byddai gorfodi cynghorau i uno yn hynod anghyfrifol gan ychwanegu i'w costau."

"Tan bod cost yr uno wedi'i archwilio'n fanwl - rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n gyfan gwbl â gwneud - ni ddylai'r cynghorau gael eu gorfodi i wneud rhywbeth na fydd, o reidrwydd, yn creu'r canlyniadau rydym ni'n dymuno eu gweld."

Dywedodd y cyn-weinidog cabinet, a'r AC Llafur, John Griffiths, mai "prin yw'r bobl yng Nghymru sy'n credu mai 22 awdurdod lleol yw'r nifer delfrydol o ran defnydd effeithlon ac effeithiol o arian, a sicrhau gwasanaethau effeithlon ac effeithiol."

"Felly rydw i'n credu bod newid yn angenrheidiol, ond yn amlwg mae cryn drafod ynglŷn ag union ffurf yr ad-drefnu hwnnw."

'Gwneud dim yn costio'n ddrud'

Roedd gan y cynghorau tan hanner nos ddydd Gwener i ddweud wrth Lywodraeth Cymru os oedden nhw am uno gydag awdurdod arall yn wirfoddol.

Dim ond chwe allan o'r 22 cyngor yng Nghymru wnaeth ddweud eu bod nhw'n fodlon uno gyda chyngor arall, sef Conwy a Sir Ddinbych; Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr; a Blaenau Gwent a Thorfaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ymateb i'r ceisiadau i uno'n wirfoddol ar 5 Ionawr.

Wrth ymateb i ganfyddiadau'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifon wythnos ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru bod y dadleuon o blaid ad-drefnu llywodraeth leol yn "gryf, gan fwynhau cefnogaeth eang."

Ychwanegodd y llefarydd: "Ni allwn fforddio i fethu'r cyfle hwn i newid ein cynghorau a sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau rheng-flaen. Byddai gwneud dim yn costio'n ddrud."

Straeon perthnasol