Glasgow 19-15 Dreigiau

Glasgow a'r Dreigiau Image copyright SNS

Colli oddi cartref yn erbyn Glasgow wnaeth y Dreigiau, a hynny wedi i'r holl bwyntiau, oni bai am gais cosb i Glasgow, ddod drwy giciau cosb.

Aeth y Dreigiau ar y blaen wedi pum munud, diolch i gic gosb gan Geraint Rhys Jones, ond dau funud yn unig barhaodd y fantais honno, wedi i Duncan Weir sgorio tri phwynt i'r tîm cartref.

Sgoriodd Jones gic gosb arall er mwyn rhoi'r fantais, unwaith eto, i'r ymwelwyr.

Cyn i Weir sgorio cic gosb arall i Glasgow, ac i Jones sgorio tri phwynt arall i'r Cymry, ac er i Richie Rees dderbyn cerdyn melyn, llwyddodd y Dreigiau i ddal gafael ar eu mantais gan ddod â'r hanner cyntaf i ben, gyda sgôr o 6-9.

Cychwyn digon trychinebus gafodd y Dreigiau i'r ail hanner, wrth iddyn nhw ildio cais cosb, ac i Weir lwyddo gyda'r trosiad.

Ond prin ddau funud yn ddiweddarach ychwanegodd Jones dri phwynt arall i gyfanswm y Cymry, a hynny gyda chic gosb arall, ei bedwaredd o'r gêm.

Ychwanegodd Weir chwe phwynt at gyfanswm Glasgow, gyda dwy gic gosb lwyddiannus.

Deg munud cyn i'r gêm ddod i ben llwyddodd Jones gyda chic gosb arall, gan leihau mantais y tîm cartref, ond roedd hi'n rhyw hwyr i newid canlyniad y gêm, gan olygu buddugoliaeth i Glasgow.