Addysg: Taflu pob pwnc i'r un crochan?

disgyblion PA Image copyright PA

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sawl adroddiad annibynnol gan academyddion yn edrych ar sut mae ein hysgolion yn dysgu amryw o bynciau.

Doedd hyn ddim yn syndod gan mai'r llywodraeth oedd wedi comisiynu pob un.

Dros gyfnod o dri mis y llynedd mi fu cryn sylw i'r adroddiadau.

Mi ddywedodd bron pob awdur y dylai'r pwnc yr oedd o neu hi wedi ei astudio fod yn bwnc craidd.

Roedd hi felly ar gyfer cyfrifiaduron, hanes, y celfyddydau ac addysg gorfforol.

O ran Cymraeg ail iaith, daeth yr adroddiad i'r casgliad fod y pwnc hwnnw mewn sefyllfa go argyfyngus.

Ateb y Gweinidog Addysg Huw Lewis oedd taflu pob pwnc i'r un crochan ac edrych eto ar y maes llafur yn ei gyfanrwydd.

Newydd wedd

Ym mis Mawrth eleni cyhoeddwyd mai'r Athro Graham Donaldson oedd y gŵr fyddai'n cynnal arolwg o'r cwricwlwm cyfan gyda'r bwriad o greu fersiwn newydd sbon.

Ers hynny does yna ddim prinder o ran uchelgais na gorddweud pwysigrwydd y dasg.

Yn ôl y gweinidog a'r Athro Donaldson, mi fydd y cwricwlwm ar ei newydd wedd yn hollol wahanol i'r hyn sydd ganddon ni ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr Lewis wrtha' i y byddai'n "newid hollol sylfaenol" - tra bo'r athro Donaldson o'r farn y byddai wedi methu oni bai bod yr hyn fydd yn ei adroddiad ym mis Chwefror yn heriol dros ben.

Mae gan yr Athro Donaldson brofiad o gyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol i systemau ysgolion. Fo wnaeth gynllunio cwricwlwm newydd Yr Alban ddaeth i rym eleni.

Doedd o ddim am rannu gormod o wybodaeth, ond mi ddywedodd y byddai angen newid y modd yr oedd athrawon yn cael eu hyfforddi, os am wireddu'r weledigaeth oedd ganddo ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Ei bwynt oedd hyn - mae'r cwricwlwm presennol yn dyddio'n ôl i ddiwedd yr 1980au, i gyfnod cyn bodolaeth y we fyd eang.

Yn amlwg, felly, mae newid ar y gweill.

Image caption Mae angen anghofio am yr hen syniad o elfennau "craidd" ac "ymylol," medd Huw Lewis

Plethu pynciau?

Mae'r gweinidog wedi lledawgrymu yr hyn mae o'n disgwyl ei weld yn y cwricwlwm newydd.

Dywedodd wrtha' i yn ddiweddar fod angen anghofio am yr hen syniad o elfennau "craidd" ac "ymylol," y dylai pob pwnc blethu i'w gilydd.

Rhywbeth arall mae wedi cyfeirio ato ydy beth ddylai ddigwydd ym mlynyddoedd cyntaf yr ysgol uwchradd.

Mae nifer yn galw'r cyfnod yma - blynyddoedd 7, 8 a 9 - yn "flynyddoedd coll" oherwydd y teimlad mai dim ond aros i'r cyrsiau TGAU ddechrau mae'r disgyblion.

Syniad y gweinidog ydy y dylai disgyblion gael amser "y tu hwnt i'r cwricwlwm" yn ystod y blynyddoedd yma.

Mi allai fod yn gyfle i ddilyn neu feithrin diddordeb sydd ganddyn nhw ac, yn ôl Mr Lewis, mae'n debygol y byddai'n digwydd oddi ar dir yr ysgol. Rhyw fath o brofiad gwaith ond y byddai'n digwydd yn achlysurol - wythnosol, er enghraifft - am dair blynedd.

Mympwy gweinidog sydd am wneud ei farc, efallai? Dw i ddim mor siwr.

Magu cariad at ddysg

Does gen i ddim gwybodaeth ychwanegol o ran beth fydd yr Athro Donaldson yn ei argymell.

Ond mewn cynhadledd yn ddiweddar bu'n sôn am yr angen i'r ysgol uwchradd fod yn fwy o lawer na lle i ennill cymwysterau - y dylid magu cariad at ddysg.

Hynny ydy, yr un math o beth ag yr oedd y gweinidog yn ei ddweud wrth wyntyllu ei syniad am dreulio amser y tu hwnt i'r cwricwlwm.

Maen nhw'n syniadau diddorol dros ben ond tybed pa mor ymarferol fyddan nhw?

Beth bynnag ddaw yn yr adroddiad ganol mis Chwefror, mae'r potensial yno i newid beth a sut fydd ein plant yn dysgu am flynyddoedd i ddod.

Straeon perthnasol