Dim arian i gynnal a chadw mynwentydd

Gwirforddolwyr yng Nghonwy yn clirio'r drain a'r mieri yn Eglwys St Agnes Conwy
Image caption Gwirforddolwyr yng Nghonwy yn clirio'r drain a'r mieri

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud fod ganddyn nhw argyfwng wrth iddyn nhw fethu a chynnal a chadw llawer o'u mynwentydd.

Maen nhw'n dweud bod canoedd o fynwentydd yn diflannu o dan lwyni a chwyn gan nad oes ganddyn nhw ddigon o arian na phobl i'w helpu.

Wrth i fynwentydd lenwi does 'na ddim incwm yn dod i mewn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn barod i edrych ar y problemau a thrafod gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Gwirfoddolwyr yn aml a welir yn gwneud y gwaith cynnal a chadw mewn sawl mynwent.

Dywedodd Anna Bitowski ei bod am wneud rhywbeth ar ôl gweld cyflwr bedd ei thaid.

Hen fynwentydd

Gwirfoddolwr arall ym mynwent St Agnes yng Nghonwy, ydi Alan:

"'Da ni wedi bod yn clirio drain sydd wedi tyfu dros feddi," meddai.

"Gwaith clirio yn fwy na dim byd sydd wedi ei wneud."

Image caption Mae coed wedi tyfu o amgylch nifer o feddi'r eglwys

"Mae hon yn broblem go iawn," meddai Hywel Williams Aelod Seneddol Arfon.

"Cyfrifoldeb yr Eglwys yw'r hen fynwentydd, ond does 'na fawr o neb yn cael eu claddu yno bellach a dim incwm yn dod mewn i'w cynnal.

"Maen nhw'n gallu mynd i gyflwr difrifol iawn ac yn loes calon i bobl sydd â pherthnasau lle maen nhw'n gorfod cwffio eu ffordd at y beddi."

'Newid y ddeddf?'

Dywedodd bod angen cael rhyw fath o incwm o ffynohnnell arall yn y pendraw.

"Dwi'm yn credu bod cynghorau am eu cymryd nhw drosodd heb adnoddau ychwanegol am eu bod yn wynebu toriadau," ychwanegodd.

"Y wladwriaeth yn y pendraw sy'n gyfrifol ond mae arian yn dynn.

"Efallai bod angen newid y ddeddf."

Yn ôl swyddogion yr eglwys mae'r broblem yn deillio'n ôl i'r 1920au pan gafodd yr Eglwys yng Nghymru ei gwahanu oddi wrth y stâd - proses o'r enw datgysylltu.

Dyna pam nad ydi'r cynghorau lleol yn gallu edrych ar ôl y mynwentydd.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud ei bod yn sylweddoli fod hon yn sefyllfa anodd.

"Dwi'n credu bod 'na sgwrs i'w chael efo'r Cynulliad," meddai Paul Davies, Archddiacon yr Eglwys yng Nghymru.

"Mae'n anodd iawn i'r Eglwys Yng Nghymru i edrych ar ôl yr holl fynwentydd.

"Mae'r math o bartneriaeth fel sydd yng Nghonwy yn syniad gwych a bod y gymuned yn cymryd rhan yn y gwaith o gynnal a chadw."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.